Rhoi

Mae gan staff Gofal Critigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru rywle i fynd i ymlacio a chael seibiant oddi wrth y wardiau, diolch i rodd hael gan Stagecoach, De Cymru, drwy Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Y llynedd, diolchodd Stagecoach De Cymru i’w gwsmeriaid ar hyd a lled y wlad am helpu i godi dros £28,646.29 ar gyfer Apêl Covid-19 Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Ar ddechrau pandemig Covid-19, cyflwynodd Stagecoach bolisi union bris, sy’n dal i fynd, fel mesur diogelwch. Felly roedd nifer o’i wasanaethau bws yn ymdrin â llai o arian parod. Dywedwyd wrth y cwsmeriaid y byddai unrhyw arian dros ben y byddai’r cwmni’n ei dderbyn o ganlyniad i beidio rhoi newid, yn mynd i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro fel rhan o apêl COVID-19 elusennau’r GIG gyda’i gilydd sy’n cefnogi gwaith pwysig gweithwyr y GIG.

Pan oedd Tîm Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau’r Bwrdd Iechyd wedi gorffen adeiladu’r ardal, defnyddiwyd cyllid Stagecoach i ddodrefnu’r ardal. Mae’r ystafell ymlacio bellach yn fwy, ac mae dodrefn newydd, smart, seddi cyfforddus ac addurniadau hyfryd yno. Bydd gwaith celf yn cael ei roi ar y waliau hefyd, er mwyn ychwanegu at yr ymdeimlad braf. Mae Poppi Furniture wedi helpu i drawsnewid y lle.

Dywedodd Sarah Lloyd, Rheolwr Cyffredinol Dros Dro Gofal Critigol a Thrawma Mawr: “Hoffwn ddiolch i Stagecoach am dalu am drawsnewid yr ystafell ymlacio ar gyfer gofal critigol. Mae cael rhywle i’n staff gael seibiant oddi ar y ward yn gwneud byd o wahaniaeth, yn enwedig yn ystod cyfnod mor heriol. Mae lliwiau’r dodrefn a’r addurniadau wir yn helpu i greu ymdeimlad braf o ymlacio. Hoffwn ddiolch i’r Tîm Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau am greu’r lle yma i ni ei ddefnyddio. Rydym wir yn gwerthfawrogi.”

Dywedodd Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach De Cymru: “Hoffem ddiolch i’n cwsmeriaid am ein helpu ni i godi swm anhygoel ar gyfer elusen werth chweil. Rydym yn falch iawn o’r gwaith y mae staff y GIG a gweithwyr allweddol, gan gynnwys ein gweithwyr ni ein hunain, yn ei wneud o hyd ac rydym yn falch y bydd y rhodd hon yn mynd tuag at weddnewid yr ystafelloedd yn uned gofal critigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

“Mae pob un ohonom wedi gorfod newid y ffordd rydym yn byw ac yn teithio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er mwyn atal y Coronafeirws rhag lledaenu. Mae defnyddio cardiau digyswllt, dyfeisiau symudol neu dalu ar-lein wedi bod yn ffordd gyfleus i nifer o bobl dalu am deithio, a byddem yn annog ein cwsmeriaid i barhau i wneud hynny pan fo’n bosibl.”


Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.