Rhoi

Ym mis Mawrth 2022, clywsom fod Robert Morris yn mynd i gymryd rhan yn Ironman Dinbych-y-Pysgod 2022 i godi arian ar gyfer y Tîm Trawma Mawr a achubodd fywyd ei ferch.

Rydym wedi derbyn diweddariadau i ddweud bod hyfforddiant Rob yn mynd yn rhagorol, a bod ei dudalen codi arian wedi derbyn swm anhygoel o roddion! Mae hefyd wedi trefnu noson ‘Arwyr Chwaraeon’ gydag arwyr rygbi Cymru, gyda’r holl elw’n mynd i gefnogi’r Uned Trawma Mawr.

Gwaith gwych Rob, mae pawb yn dy gefnogi, a dymunwn noson ‘Arwyr Chwaraeon’ lwyddiannus i ti!

Cynhelir Ironman Dinbych-y-Pysgod 2022 ar 11 Medi 2022, felly mae amser o hyd i gefnogi Rob drwy gyfrannu at ei dudalen JustGiving .

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.