Rhoi

Rhoddwyd arian gan y Pwyllgor Cronfeydd Elusennol i gefnogi Tîm Trawsblaniadau Cymru sy’n cynnwys cleifion lleol sydd wedi cael trawsblaniadau, i gymryd rhan yng Ngemau Trawsblaniadau Prydain dros y 5 mlynedd nesaf. Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi bod yn falch iawn o gefnogi Tîm Trawsblaniadau Cymru dros y blynyddoedd diwethaf i ddathlu rhoi organau ac i annog cleifion i fyw bywydau iach.

Roedd Tîm Trawsblaniadau Cymru yn gallu creu tîm llwyddiannus iawn o 43 oedolyn a 3 chlaf pediatrig i gystadlu yn y Gemau Trawsblaniadau Prydain diwethaf a gynhaliwyd yng Nghymru yn 2019. Enillodd y cystadleuwyr ymroddedig dlws, 14 medal aur, 9 medal arian a 12 medal efydd dros bedwar diwrnod y gemau, ac roeddent yn gobeithio ailadrodd y llwyddiant rhyfeddol hwn eleni.

Ar ôl bwlch o 2 flynedd, cynhaliwyd Gemau Trawsblaniadau Prydain 2022 yn Leeds, ac yn sgil eu brwdfrydedd aruthrol, enillodd tîm Trawsblaniadau Cymru 21 medal! Mae’r tîm yn cynnwys 21 oedolyn ac 1 aelod iau, ac enillodd y tîm 9 medal aur, 7 medal arian a 5 medal efydd, gydag un aelod o’r tîm yn gosod record Brydeinig newydd. Nid dim ond curo record Prydain ar gyfer chwaraeon trawsblaniadau wnaeth Lewis Evans, ond mewn gwirionedd fe gurodd y record byd bresennol am athletwr sydd wedi cael trawsblaniad trwy redeg 100m mewn dim ond 10.99 eiliad!

Meddai Shaun Thomas, yr Uwch Weithiwr Ieuenctid Arennol: “Am gemau hynod lwyddiannus, ni allwn ddiolch digon i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro am eu cefnogaeth barhaus.”

“Mae’r adborth gan yr athletwyr a’u teuluoedd wedi bod yn hynod gadarnhaol. Mae wedi rhoi targed cadarnhaol ac ysgogol iddynt hyfforddi tuag ato, ond, dywedon nhw hefyd eu bod wedi croesawu’r seibiant. Roedd y ffaith ein bod yn gallu galluogi cymaint o gefnogwyr i fod yn bresennol, wir wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’r teuluoedd hyn. Cafodd plant a phartneriaid y cyfle i weld eu hanwyliaid yn ffynnu ac yn cyflawni hyd eithaf eu gallu a dyma’r hyn sy’n bwysig am y gemau! Pawb yn dathlu rhoi organau!

“Mae’r holl deuluoedd a fynychodd eleni wedi gofyn i ni ddweud pa mor ddiolchgar iawn ydynt!”

Roedd y Pwyllgor Cronfeydd Elusennol yn falch iawn o gefnogi’r cais, gan ei fod yn rhoi cyfleoedd i gleifion sydd wedi cael trawsblaniadau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gadw’n heini, a chymryd rhan mewn chwaraeon sydd yn eu tro yn cefnogi eu hiechyd a’u lles drwy ysgogi’r tîm i wneud ymarfer corff.

Mae’r dyfyniadau isod yn dangos yr effaith emosiynol ac effaith y gefnogaeth gan gyfoedion a gafodd y cyfranogwyr drwy fod yn rhan o Dîm Trawsblaniadau Cymru. Roedd y tîm hefyd yn teimlo mai un o’r prif fanteision oedd gallu cynrychioli Cymru yn y digwyddiad. 

“Cyn i mi gyfarfod â’r tîm ro’n i mewn lle gwael. Collais fy swydd oherwydd salwch, es i’n isel fy ysbryd, fyddwn i ddim yn gadael y tŷ. Helpodd y tîm fi i sylweddoli bod bywyd yn werth ei fyw drwy gymryd rhan weithredol, gan gadw golwg arnaf i weld sut roeddwn i’n teimlo a chynnig unrhyw help i symud ymlaen i helpu i gyflawni fy nodau. Dwi bellach mewn swydd, nôl yn gweithio ac yn byw fy mywyd sut y dylwn. Hoffwn ddiolch i chi i gyd am eich help i wneud hynny.”

Liam

“Am unwaith roeddwn i’n teimlo fel dyn iach normal. Roedd gen i fy mhartner a’m plant gyda fi oedd hefyd yn mwynhau gweld eu tad yn cystadlu. Ro’n i’n hoffi’r profiad o gerdded o gwmpas y stadiwm gyda’r tîm a ro’n nhw’n meddwl mod i’n ‘super dad’, roedd yn deimlad hollol anhygoel!”

Teifion

“Mae chwarae i Dîm Pêl-droed Trawsblaniadau Cymru wedi rhoi hwb i’m hyder a’m ffitrwydd gymaint. Rwy’n edrych ymlaen at wisgo’r crys gan ei fod yn gwneud i mi deimlo’n falch.”

Martin

Llongyfarchiadau mawr i dîm Trawsblaniadau Cymru am gystadlu yng Ngemau Trawsblaniadau Prydain eleni, ac am ennill cymaint o wobrau haeddiannol!

Os hoffai eich adran wneud cais am arian i gefnogi prosiectau fel yr un yma, anfonwch e-bost at fundraising.cav@wales.nhs.uk

Os hoffech wybod mwy am Dîm Trawsblaniadau Cymru, cysylltwch â Shaun Thomas Shaun.Thomas2@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.