Rhoi

Bydd Stacey McIntyre (Nyrs Arbenigol Diabetes Pediatrig) ac Aisling Pigott (Deietegydd Diabetes) yn rhedeg Marathon Eithafol Bro Morgannwg ym mis Ebrill i gefnogi’r Gronfa Diabetes Pediatrig.

Bydd yr arian a godir yn cael ei ddefnyddio i drefnu gweithgareddau a digwyddiadau addysgol, a phrynu offer defnyddiol i blant a phobl ifanc sy’n byw gyda Diabetes Math 1, cyflwr gydol oes sy’n cael ei reoli gan bigiadau inswlin neu therapi pwmp inswlin a phigiadau glwcos gwaed rheolaidd. Bydd yr offer yn cael ei ddefnyddio i helpu plant a phobl ifanc i gyfrif carbohydradau, sy’n adnodd cynllunio prydau a ddefnyddir wrth reoli diabetes er mwyn helpu i optimeiddio rheoli siwgr yn y gwaed.

Dywedodd Aisling: “Mae’n gyflwr anodd ei reoli, ac mae ein teuluoedd yng Nghaerdydd a’r Fro yn gweithio mor galed ac rydym mor falch ohonynt. Mae Stacey a finnau yn angerddol am bwysigrwydd gweithgarwch corfforol ac yn gobeithio ysbrydoli plant a phobl ifanc i gyflawni eu nodau chwaraeon eu hunain.”

Mae Marathon Eithafol Bro Morgannwg yn llwybr 32 milltir ar hyd arfordir cyfan Bro Morgannwg, gan ddechrau ym Mhier Penarth a gorffen yn Ogwr. Mae hi’n her anhygoel, a hoffai Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ddiolch yn fawr iawn i Stacey ac Aisling am eu gwaith caled a’u hymroddiad i gefnogi’r Gronfa Diabetes Pediatrig!

I ddangos eich cefnogaeth drwy gyfrannu, ewch i: https://www.justgiving.com/fundraising/CAVPaediatricDiabetes

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.