Rhoi

Ddydd Sul 1 Hydref 2023, cynhelir 20fed Hanner Marathon Caerdydd ar draws y ddinas. Gan yr amcangyfrifir bod miloedd o bobl yn cymryd rhan, rydym yn tynnu sylw at ein rhedwyr ysbrydoledig.

Mae Sana yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd er cof am ei diweddar ferch, Jannat Khan. Ganwyd Jannat yn gynnar iawn, oherwydd cymhlethdodau, yn 27 wythnos oed ar 12 Awst 2022 ac roedd yn pwyso 440g. Brwydrodd Jannat yn galed iawn ond bu farw ar ôl 6 diwrnod ar 18 Awst 2022 yn yr NICU yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Dywedodd Sana, “Rwy’n hynod ddiolchgar am y gofal a ddarparwyd gan holl aelodau staff yr NICU yn ystod y cyfnod anodd hwn. Heb yr NICU, ni fyddwn hyd yn oed wedi cael y 6 diwrnod hynny gyda fy merch.”

Dywedodd Sana cymaint oedd hi’n gwerthfawrogi’r staff hynod gefnogol ar ôl colli Jannat. Gwnaeth y staff eu gorau i sicrhau bod gan y teulu lawer o bethau i gofio am Jannat.

Yn ogystal, treuliodd y teulu cyfan noson gyda Jannat ar ôl iddi farw, wedi’i hwyluso gan yr NICU, ac roedd Sana a’i theulu yn hynod werthfawrogol.

Bydd Aqsa hefyd yn ymuno â Sana yn Hanner Marathon Caerdydd gan fod Jannat yn nith iddi. Bydd Aqsa yn ymuno â Sana ac yn dyblu eu hymdrechion codi arian ar gyfer yr NICU.

Dywedodd Aqsa, “Rwy’n rhedeg Hanner Marathon Caerdydd i godi arian ar gyfer yr NICU, fel y gallant barhau i ddarparu’r lefel uchel hon o ofal i fabanod sydd angen cymorth ychwanegol, yn ogystal â chefnogi rhieni a theuluoedd fel ni. Roedden ni i gyd mor ddiolchgar i’r staff gofalgar.”

Os hoffech chi gefnogi Sana ac Aqsa a’u helpu i gyrraedd eu nod codi arian, ewch i’w tudalen Just Giving yma.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.