Rhoi

Roeddem yn falch iawn yn ddiweddar i gefnogi Prynhawn Dathlu De Asia 2023 drwy Loteri’r Staff. Cynhaliwyd y digwyddiad ddydd Gwener 28 Gorffennaf 2023 yn yr Adran Addysg, Diwylliant a Datblygu Sefydliadol (ECOD) i ddathlu ac anrhydeddu Mis Treftadaeth De Asia.

Y nod yn ystod mis Gorffennaf yw coffáu, nodi a dathlu diwylliannau, treftadaeth a chymunedau De Asia. Mae gan BIPCAF amrywiaeth ddiwylliannol ffyniannus, ac mae gan gyfran sylweddol o’n gweithlu ymroddedig dreftadaeth De Asiaidd. Cynhaliwyd y digwyddiad i godi ymwybyddiaeth o’r cyfraniad enfawr y mae cymunedau De Asia yn ei wneud i’n gofal iechyd ac i ddiolch iddynt.

Mwynhawyd y Prynhawn Dathlu’n fawr gan bawb a oedd yn bresennol a rhoddodd gyfle i gofleidio a rhannu diwylliannau, hanes a chyfraniadau, gan hyrwyddo gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o’n cydweithwyr sydd â threftadaeth De Asiaidd.

Dywedodd Jessica Johns, Hwylusydd Sgiliau Clinigol ECOD: “Fel yr Adran Addysg, Diwylliant a Datblygu Sefydliadol rydym yn gweithio’n agos gyda nyrsys rhyngwladol ac yn ymwybodol o’r cyfraniad enfawr y maent yn ei wneud i’n gweithlu gofal iechyd. Roedd y digwyddiad Te Prynhawn i anrhydeddu Mis Treftadaeth De Asia, a ariannwyd gan yr Elusen Iechyd, yn gyfle i ni ddathlu’r gymuned anhygoel hon a dweud “Diolch yn fawr” iddynt.’

Gyda chefnogaeth ariannol Loteri’r Staff, darparwyd lluniaeth trwy gydol y dydd, gan gynnwys danteithion blasus gan Vegetarian Food Studio, bwyty teuluol lleol lle mae’r prif gogydd, Neil Patel, wedi datblygu ei angerdd a’i wybodaeth gan ei Nain.

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi bod yn falch iawn o gefnogi’r digwyddiad gydag arian gan Loteri’r Staff, am ei fod yn dathlu ein gweithlu amrywiol ac yn dangos gwerthfawrogiad o’r gwaith caled y maent yn ei wneud. Mae Prynhawn Dathlu De Asia hefyd wedi ceisio nid yn unig hybu morâl staff, ond hefyd gwella lles cyffredinol.

Pam ddylech CHI ymuno â Loteri’r Staff!

Drwy ymuno â Loteri’r Staff, rydych yn cefnogi ystod eang o brosiectau sy’n gwella gwasanaethau di-ri ar draws y BIP. Drwy’r cyllid hwn, rydych yn ein helpu i wneud pethau’n well i’n staff a’n cleifion, gan ein helpu ni i gyd i weithio gyda’n gilydd i greu Cymru fwy Ffyniannus, Iachach a Chydnerth.

Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, cysylltwch â fundraising.cav@wales.nhs.uk i gael manylion. Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn eich annog i wneud cais am arian drwy gronfa Loteri’r Staff, a all wella eich adran neu wasanaeth.

Os hoffech ymuno â Loteri’r Staff am gyfle i ennill £1,000 bob wythnos, gellir llenwi ffurflenni cais  yma.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.