Rhoi

Ar 12 Awst, bydd “Tîm Codi Arian y Bwrdd Plant a Phobl Ifanc” yn plymio o’r awyr i godi arian ar gyfer y Bwrdd Plant a Phobl Ifanc anhygoel ar draws Iechyd Plant Cymunedol. Mae’r tîm yn cael ei arwain gan Rachel Raymond, sy’n uwch nyrs ar gyfer y timau Ymwelwyr Iechyd yng Nghaerdydd a’r Fro, ac mae hi’n edrych ymlaen at y naid ym mis Awst gan ei bod hi’n mwynhau gweithgareddau llawn adrenalin.

Paula Davies yw’r Nyrs Arwain ar gyfer y Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd ac mae hi’n awyddus i roi rhywbeth yn ôl i’r Bwrdd Ieuenctid sy’n gweithio mor galed i’r BIP.

Ceri Lovell yw’r uwch nyrs ar gyfer CAMHS ac mae hi hefyd yn gyffrous iawn i fod yn rhan o’r tîm gan ei bod yn mwynhau ymgymryd â her.

Mae Rhys Kirby, sy’n ysgrifennydd yn adran weinyddol y tîm Plant sy’n Derbyn Gofal ac sydd wedi gweithio i’r GIG ers 24 mlynedd, eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r Elusen Iechyd anhygoel.

Mae Bethan Cordery yn aelod gwerthfawr o’r Bwrdd Ieuenctid, a hi yw aelod ieuengaf y tîm a fydd yn ein cefnogi ni i gyd.

Mae Cyfarwyddiaeth Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yn codi arian ar gyfer ein Bwrdd Ieuenctid anhygoel i gefnogi diwrnod lles i’w cynorthwyo i wireddu un o’u syniadau anhygoel i helpu eraill.

Mae’r grŵp o blant a phobl ifanc sy’n rhoi o’u hamser yn wirfoddol i helpu’r BIP i wneud newidiadau, gyda phlant a hawliau plant mewn golwg ym mhob penderfyniad mawr, yn awyddus i wella profiad y claf ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n dod yn gleifion yn ein hysbytai.

Maent yn arbennig o awyddus i ddarparu rhywbeth i’r plant hynny (yn enwedig os ydynt yn 16 neu 17 oed) sy’n canfod eu hunain mewn ardaloedd i oedolion, fel yr adran achosion brys neu ar wardiau oedolion.

Gwnaethant feddwl am y syniad o ddarparu ‘bocsys cysur’ i’r plant hynny, a fyddai’n cynnwys eitemau penodol i wella eu hamser yn yr ysbyty. Dewiswyd yr eitemau gan bobl ifanc a byddent yn cynnwys clustffonau, past dannedd a brwsh dannedd, tegan wedi’i stwffio, crys-t sbâr, llyfr lliwio ymwybyddiaeth ofalgar, pensiliau a balm gwefusau.

Meddai Paula: “Rydym am wneud y syniad gwych a thosturiol hwn yn realiti i’r Bwrdd Ieuenctid a’r plant y maent eisiau eu helpu. I gyflawni hynny, bydd sawl aelod o staff a pherson ifanc yn neidio o awyren! Ydyn, rydyn ni’n wallgof yn yr adran hon, ond rydyn ni’n angerddol iawn am gefnogi Plant a Phobl Ifanc”.

Cefnogwch y tîm a chodwch arian ar gyfer yr achos gwerth chweil hwn.

Tîm Codi Arian y Bwrdd Plant a Phobl Ifanc yn codi arian ar gyfer ULHB Caerdydd a’r Fro ar JustGiving

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.