Rhoi

Ym mis Chwefror, yn ystod Mis Cenedlaethol y Galon, rydym yn tynnu sylw at godwyr arian sy’n cefnogi’r Gronfa Cardioleg Bediatrig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae Mis Cenedlaethol y Galon yn ymwneud â thynnu sylw at bwysigrwydd iechyd cardiofasgwlaidd a’r hyn y gallwn ei wneud i leihau ein risg o glefyd cardiofasgwlaidd. 

Cronfa Louie Stokes 

Dechreuodd Lottie Stokes godi arian ar gyfer Gwasanaeth y Galon i Blant Cymru ar ôl i’w hail fab, Louie, gael diagnosis o gyflwr difrifol iawn ar y galon gan arwain at nifer o lawdriniaethau. Gallwch chi ddarllen y stori lawn yma

Hyd yn hyn, maent wedi cynnal raffl a gododd £2,185 a rhedeg Marathon Llundain ym mis Hydref 2022 a gododd £450. Ar 2 Mawrth 2024, cynhelir dawns fawr elusennol yn y Park Plaza. Ym mis Ebrill 2024, bydd Karl yn rhedeg Marathon Llundain! Gallwch ei gefnogi trwy gyfrannu yma. 

Gallwch hefyd decstio LOUIE wedi’i ddilyn gan swm eich rhodd at 70085 i roi’r swm hwnnw. Bydd negeseuon testun yn costio swm y rhodd ynghyd ag un neges cyfradd rhwydwaith safonol. 

Ymgyrch Martha’s Dancing Heart 

Dechreuwyd Ymgyrch Martha’s Dancing Heart gan fam Martha, Michelle Graham, sydd wedi addo codi £1miliwn yn ystod oes ei theulu i gefnogi’r Gwasanaethau Newyddenedigol a’r Gwasanaethau Cardioleg Bediatrig a ofalodd am ei merch, Martha, ar ôl ei genedigaeth. Eleni, mae hi’n anelu at godi £100,000 i ddathlu pen-blwydd Martha yn 10 oed ym mis Ionawr 2025. 

Mae hi wedi cymryd rhan yn nifer o rasys Hanner Marathon Caerdydd a heriau rhedeg eraill, ac wedi trefnu ei rhai ei hun a gododd dros £6,472. Trefnodd Michelle Ddawns Fawr Martha’s Dancing Heart yn 2020, gan godi bron i £55,000. Ym mis Gorffennaf 2023, cwblhaodd Michelle a thîm o bobl her Tri Chopa Cymru a gododd bron i £10,000. 

Gwnaethant ddechrau ymgyrch codi arian eleni gyda digwyddiad elusennol Cyfnewid Dillad ar 15 Chwefror 2024. Y cyfanswm a godwyd hyd yma yw £221. Tra ei bod yn brysur yn paratoi ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref 2024, mae hi hefyd yn trefnu her antur i orffen 50km mewn 15 awr gyda dringfa o 1500m. 

Cadwch lygad am y digwyddiadau codi arian sydd ar y gweill ar gyfer 2024 yma

Os hoffech chi gyfrannu at Martha’s Dancing Heart, cliciwch yma. 

Cronfa Gardioleg Leia Godwin 

Mae Hannah Godwin wedi bod yn cefnogi cardioleg bediatrig yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru ers brwydr ei merch, Leia, â PIMS/Clefyd Kawasaki yn dilyn dal Covid-19 yn gynnar yn 2020, gan adael Leia â chyflwr calon gydol oes. 

Mae’r teulu cyfan yn codi arian a, hyd yn hyn, wedi codi £2,964 trwy eu tudalen JustGiving; £2,782 o noson i’r merched a £449.64 pellach gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Tŷ Isaf, a gynhaliodd ddiwrnod dim gwisg ysgol a gwerthiant cacennau. 

Llwyddodd Hannah i redeg 10k ar ei pheiriant rhedeg yn ddiweddar a chodi £170. Nid oedd ei thaith yn un hawdd. Gwnaeth y penderfyniad i redeg yn ôl ym mis Gorffennaf 2021, ond collodd bob cymhelliant o ran yr hyfforddi. Ym mis Hydref 2023, dychwelodd ei brwdfrydedd a bu’n rhedeg a rhedeg ar ei pheiriant nes iddi allu cwblhau 10k. 

“Rwyf mor falch ohonof fy hun, fy mod wedi cyflawni’r hyn yr oeddwn yn anelu at ei gyflawni o’r diwedd ac wedi cwblhau 10k!!!” 

Gallwch gyfrannu at ei hymgyrch codi arian yma

Gallwch ddysgu am y digwyddiadau codi arian eraill ar y dudalen Facebook

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.