Rhoi

Ydych chi’n chwilio am her newydd eleni i wella eich iechyd a’ch lles corfforol a meddyliol? Oes angen rhywbeth cadarnhaol arnoch chi i ganolbwyntio arno yn ystod y cyfyngiadau symud?

Mae cerdded yn wych ar gyfer ein hiechyd corfforol a meddyliol, felly mae’r Elusen Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig lle i chi gymryd rhan yn yr her anhygoel hon.

Gallwch gerdded, jogio, rhedeg neu hyd yn oed ddawnsio eich ffordd i 10,000 o gamau bob dydd am 100 diwrnod. Mae miliwn o gamau yn dod i gyfanswm anhygoel o 500 milltir!

Mae’r her yn cychwyn ar 1 Chwefror 2021, a gallwch gofrestru drwy anfon e-bost at fundraising.cav@wales.nhs.uk er mwyn sicrhau eich lle am ddim. Bydd y 200 cyntaf i gofrestru yn cael mesurydd camau am ddim hefyd.

Rydym yn gofyn i chi ymrwymo i godi £100 ar gyfer Apêl Ein Berllan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, a phan fyddwch wedi cofrestru, gallwch greu eich tudalen codi arian eich hun ar-lein.

Mae Apêl Ein Berllan yn codi arian i greu parc lles yn Ysbyty Athrofaol Llandochau er mwyn gwella iechyd a lles staff, cleifion a’n cymuned leol. I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, ewch i www.ourorchard.wales I gael rhagor o wybodaeth am yr her, ffoniwch yr Elusen Iechyd ar 02921 836042 neu anfonwch e-bost at fundraising.cav@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.