Rhoi

Un o’r digwyddiadau niferus y gwnaeth COVID-19 effeithio arno oedd ein digwyddiad Strictly Top Dancer 2020.   Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn codi arian i gefnogi Apêl Canolfan y Fron yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, sy’n un o brif apeliadau Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.  Ers i ddigwyddiad blynyddol Strictly Top Dancer ddechrau yn 2015, mae bron i £100,000 wedi’i godi ar gyfer Apêl Canolfan y Fron, ac mae gwaith ar y gweill bellach i gynyddu’r swm aruthrol hwn eleni. 

Sefydlwyd Strictly Top Dancer mewn cydweithrediad â Mandy Weston a Cariann Emanuelli, tîm mam a merch ac aelodau gweithgar iawn o Bwyllgor Apêl Canolfan y Fron.  Mae Mandy wedi dioddef canser y fron ei hun ac mae’n angerddol am gefnogi’r gwasanaeth a’i cefnogodd hi.

Ar ddechrau 2020, roedd wyth tîm wedi’u dewis, roedd cysylltiadau wedi’u gwneud gydag athrawon dawns ac roedd ymarferion wedi hen ddechrau – ac yna, fel popeth arall, ym mis Mawrth 2020 daeth y cyfan i ben.

Ar ôl dwy flynedd ansefydlog, mae pethau’n ôl ar y trywydd iawn, mae ymarferion yn y dyddiadur, ac mae’r dyddiad newydd ar gyfer Strictly Top Dancer 2022 wedi’i drefnu ar gyfer 17 Medi eleni yn yr ICC gwych yng Ngwesty’r Celtic Manor.

Yn anffodus, mae rhai o’r timau gwreiddiol wedi gorfod tynnu allan, ond mae pedwar tîm o’r garfan wreiddiol yn cymryd rhan, a thri thîm newydd ar gyfer 2022.  Gadewch i ni eu cyflwyno…

Hareem Hopkins KLA    

Mae gan y tîm penderfynol hwn reswm emosiynol iawn dros gymryd rhan. “Mae’r tîm benywaidd hwn yn deyrnged i’n Natalie hardd, aelod o’n teulu dawns KLA, a fu farw o ganser y fron yn 40 oed. Roeddem i gyd yn ffrindiau gwych i Natalie, sydd wedi gadael dwy ferch hyfryd a’i gŵr arbennig Wayne ar ôl.  Roedd ganddi’r enaid mwyaf rhyfeddol a’r wên brydferthaf. Mae pob dawns wedi’i chyflwyno iddi hi, a’r caneuon rydym yn eu defnyddio oedd ei ffefrynnau hi.

https://www.justgiving.com/team/Strictly-Top-Dancer-KLA-Hopkins-Hareem

Dance & Boogie             

Dyma beth oedd ganddynt i’w ddweud, “Er bod Dance & Boogie wedi ffurfio o syniad gwallgof ar noson feddw, rydym ni fel tîm yn llawn cyffro i fod yn rhan o’r digwyddiad elusennol anhygoel hwn. Fel tîm o wyth sydd â phrin unrhyw brofiad dawns, mae’r syniad o berfformio o flaen 450 o bobl yn arswydus ac yn gyffrous.

“Ond nid yw’r noson yn ymwneud â ni. Mae’r noson yn ymwneud â chodi arian ar gyfer Apêl Canolfan y Fron. Mae Canolfan y Fron yn darparu gofal anhygoel i ddioddefwyr canser cyn, yn ystod ac ar ôl triniaeth. Gan fod y clefyd hwn wedi effeithio ar lawer o aelodau’r tîm mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, roedd yn holl bwysig ein bod yn gwneud ein gorau glas nid dim ond i geisio ennill y gystadleuaeth elusennol hon, ond i godi cymaint o arian â phosibl i helpu i gefnogi pobl y mae’r clefyd erchyll hwn yn effeithio arnynt.”

https://www.justgiving.com/team/Strictly-Top-Dancer-Dance-and-Boogie

Prosecco & A Pint          

Meddai’r grŵp, “Rydym yn grŵp o rieni a ffrindiau dawns sydd wedi cyfarfod yn Dance Unity Studios, lle mae ein plant yn dawnsio. Rydym wedi penderfynu ymuno â chystadleuaeth Strictly Top Dancer am ddau reswm:

“Un, i weld os allwn ni ddawnsio. Rydyn ni’n gwybod y gall ein plant ddawnsio, ond beth amdanon ni? A dau, i godi arian at achos ffantastig.

“Mae canser y fron wedi effeithio ar lawer o aelodau ein teulu, ffrindiau a chydweithwyr ac mae hyn wedi ein hybu i ymgymryd â’r her. Ein nod yw codi £3000 ar gyfer Apêl Canolfan y Fron. Rydym yn llawn cyffro i gael ein haddysgu gan y staff yn Dance Unity Studios.”

https://www.justgiving.com/team/Strictly-Top-Dancer-Dance-Unity-Processo-and-Pint

Worn Out Trainers

Meddai’r tîm hwn, “Unwaith eto, mae Pentref Ffitrwydd Creazione wedi cael y cyfle gwych i fod yn rhan o gystadleuaeth Strictly Top Dancer 2022, ar gyfer Apêl Canolfan y Fron.

“Yma yn Creazione rydym wrth ein bodd yn helpu a chefnogi ein gilydd ac aelodau ein campfa, ac yn mwynhau ein sgyrsiau hamddenol dros baned.  Mae cynifer ohonom wedi gweld y clefyd ofnadwy hwn a sut y gall effeithio ar bawb. Yn fwy na dim, rydym am gymryd rhan i gofio’r rhai sydd wedi caru a cholli, ac i’r rhai sy’n dal i frwydro.

“Mae ein hathrawon eisoes wedi bod yn rhoi trefn arnom i weithio mor galed ag y gallwn er mwyn sicrhau ein bod yn barod i ymgymryd â’r her!”

https://www.justgiving.com/fundraising/strictly-top-dancer-worn-out-trainers

Figure of 8 – Mamau Rygbi

Meddai’r grŵp, “Cyfarfu’r rhan fwyaf ohonon ni ferched ar ochr cae rygbi ddeng mlynedd yn ôl, tra bod ein bechgyn yn chwarae rygbi, a daethom yn ffrindiau.

“Gyda chefnogaeth ffrindiau eraill fe benderfynon ni gymryd rhan yn Strictly Top Dancer. Rydym yn griw gwallgof sy’n edrych ymlaen at hwyl a heriau’r profiad hwn.

“Allwn ni ddawnsio? Pwy â ŵyr! Ond rydyn ni’n mynd i roi cynnig go dda arni!!”

https://www.justgiving.com/team/Strictlytopdancer2022-figureof8

Dance Crazy Glamazons             

Dyma ychydig amdanynt a pham eu bod wedi penderfynu cystadlu.  “Rydym i gyd wedi bod yn dyst i’r boen a’r dioddefaint y mae canser yn ei achosi; mae’n glefyd creulon sy’n mynd â bywydau’n gynamserol ac rydym am ddawnsio i gofio’r rhai nad ydynt gyda ni mwyach, a rhoi gobaith i’r rhai sy’n brwydro canser ar hyn o bryd.

“Mae’r Glamazons yn cymryd rhan yn y digwyddiad hwyliog a gwych hwn er mwyn helpu dioddefwyr canser a’u teuluoedd – mae’r arian a godir yn hanfodol i ariannu gwasanaethau ymchwil a chymorth. Rydym yn falch o gyfrannu at elusen mor bwysig.”

https://www.justgiving.com/team/Strictytopdancer2022-Glamazons

The Church Village People

Meddai’r grŵp, “Rydym yn grŵp o rieni dawns sy’n frwdfrydig dros ddawnsio ac mae’r gwaith gwych y mae Canolfan y Fron yn ei wneud wedi creu argraff syfrdanol arnom.

“Bydd ein perfformiad wedi’i gyflwyno i deuluoedd, ffrindiau ac anwyliaid y mae canser y fron wedi effeithio arnynt. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael gwledd o hwyl a gwneud ein gorau glas i fod yn bencampwyr y gystadleuaeth!”

https://www.justgiving.com/team/Strictytopdancer2022-churchvillagepeople

Nid yn unig y mae pob un o’r timau wedi mynd gam ymhellach gyda’u hyfforddiant eleni, maent hefyd wedi gwneud pethau anhygoel i hybu eu gwaith codi arian.  Nosweithiau merched, plymio o’r awyr, rafflau anhygoel, a rasys hwyaid – popeth! 

Ar 12 Mehefin, daeth y timau at ei gilydd i ymarfer a dywedodd Cariann, “Cafwyd noson arbennig gyda’n timau heno. Mae’n wych gweld pa mor wirioneddol anhygoel ydych chi i gyd, a’r gwaith caled rydych chi’n ei wneud ar gyfer elusen mor arbennig sydd wedi effeithio arnom ni i gyd.

“Hoffem DDIOLCH YN FAWR IAWN i chi i gyd am noson wych; roedd wir yn rhywbeth arbennig iawn.  Rydym yn llawn cyffro ar gyfer y gystadleuaeth, ac rwy’n siŵr eich bod chi hefyd (efallai bod cymysgedd o gyffro a nerfau!!).”

Mae’r timau, gan gynnwys cyfraniadau gan y rhai nad oeddent yn gallu parhau yn y gystadleuaeth, eisoes wedi codi dros £6,000, ac mae targed y digwyddiad eleni yn £25,000!

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae’r timau’n ei wneud eleni, gallwch ddilyn eu cynnydd ar Facebook:

 https://www.facebook.com/strictlytopdancer a https://www.facebook.com/BreastCentre

Hoffwch, rhannwch a dilynwch y ddwy dudalen fel nad ydych yn colli’r cyfle i gymryd rhan yn y digwyddiadau a’r rafflau gwych sy’n cael eu cynnal eleni i gefnogi ymdrechion codi arian Strictly Top Dancer.

Parhewch i ddawnsio………….

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.