Rhoi

Hoffem longyfarch a diolch yn fawr iawn i Owain Wilkins a redodd Marathon Stockholm ar ddydd Sadwrn 3 Mehefin, gan godi arian ar gyfer yr Uned Hematoleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru er cof am ei fam annwyl.

Cafodd Gaynor Wilkins driniaeth yn yr Uned Hematoleg tra’n byw gyda chanser y gwaed am ddwy flynedd a hanner. Derbyniodd ofal rhagorol gan y tîm Hematoleg ac, fel diolch, bu Owain yn codi arian i gefnogi’r staff gwych oedd yn gofalu am ei fam, ac i gynorthwyo eraill sy’n wynebu profiad tebyg.

Yn ystod Marathon Stockholm, bu Owain ar daith trwy brifddinas hardd Sweden, sydd wedi’i hadeiladu ar 14 o ynysoedd, gyda chanol canoloesol hynod hardd i’r ddinas. Gyda golygfeydd hyfryd trwy gydol y ras, a’r haul yn gwenu, cwblhaodd Owain y cwrs gan godi swm rhagorol o £4,277.36 i’r Uned Hematoleg!

Meddai Owain: “Am ddiwrnod! Doedd hi ddim yn gymylog, er mai dyna a addawyd ar y rhagolygon (ac y gobeithiwyd amdano!), a bu’n rhaid brwydro yn erbyn gwres yr haul ar adegau! Ond, er gwaetha’r tywydd poeth, roedd cwrs marathon Stockholm yn llawn golygfeydd hardd ac, yn bwysicaf oll, alla i ddim credu faint o arian sydd wedi’i godi ar gyfer yr Uned Hematoleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.”

Llongyfarchiadau i Owain am gwblhau’r ras heriol, a diolch enfawr am gefnogi’r Uned Hematoleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Gallwch barhau i gyfrannu at ymdrechion codi arian Owain drwy fynd i’w dudalen JustGiving.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.