Rhoi
Yr Hafan Natur, Cynllun gan DTE

Ddydd Sul 1 Hydref 2023, cynhelir 20fed Hanner Marathon Caerdydd ar draws y ddinas. Gan yr amcangyfrifir bod miloedd o bobl yn cymryd rhan, rydym yn tynnu sylw at ein rhedwyr ysbrydoledig.

Mae Peter Jones yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd 2023 i godi arian ar gyfer Ein Dôl Iechyd i ddatblygu Hafan Natur – cyfleuster gofal iechyd therapiwtig awyr agored.  

Mae Ein Dôl Iechyd yn fan gwyrdd arloesol sydd wedi’i leoli ar dir Ysbyty Athrofaol Llandochau. Yn ogystal â darparu amgylchedd naturiol i gleifion, staff a’r gymuned ymweld ag ef a’i fwynhau, mae hefyd yn cael ei ddefnyddio fel gofod i wirfoddolwyr ddysgu sgiliau newydd trwy weithdai cynaliadwy a hygyrch a ddarperir gan Down to Earth.

Mae Peter yn codi arian i gefnogi cynlluniau a datblygiad yr Hafan Natur yn Ein Dôl Iechyd, a fydd yn cynnwys tirlunio’r safle, adeiladu’r cyfleusterau therapi, a chynnal a chadw’r tiroedd trwy’r tîm anhygoel yn Down to Earth. Nod yr Hafan Natur yw gadael etifeddiaeth barhaus, a chaniatáu i Ein Dôl Iach wella iechyd a lles cenedlaethau’r dyfodol am flynyddoedd i ddod.

Dywedodd Peter: “Byddai’n wych pe gallech fy nghefnogi yn fy ymgyrch i godi arian ar gyfer Ein Dôl Iechyd a helpu i greu lle gwych i wella iechyd a lles i bawb.” 

I gefnogi Peter yn ei genhadaeth, cyfrannwch i’w dudalen JustGiving.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.