Rhoi

Yn ddiweddar cefnogwyd Grwpiau Cerdded Nordig, drwy arian gan Loteri’r Staff, i brynu polion cerdded ychwanegol fel y gellir cyflwyno’r sesiynau cerdded ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg.

Mae’r Grwpiau Cerdded Nordig yn cynnwys pobl sy’n byw gyda phoen yn y cymalau sydd wedi cyflawni rhaglen adsefydlu ESCAPE Pain a ddarperir gan y Gwasanaeth Byw’n Dda. Rhan allweddol o’r gwasanaeth yw trefnu gweithgareddau addas ar ôl y rhaglen sy’n cefnogi cyfranogwyr ymhellach gyda’u taith adsefydlu. Ymhlith y gweithgareddau amrywiol, Cerdded Nordig yw’r dewis mwyaf poblogaidd a’r un a ffefrir.

Mae cymryd rhan yn y gweithgareddau difyr hyn nid yn unig wedi cyfrannu at wella iechyd y cyfranogwyr ond hefyd wedi meithrin ymdeimlad o gymuned o fewn y grwpiau. Mae hyfforddwyr adsefydlu Byw’n Dda a chyfranogwyr rhaglen ESCAPE wedi cael hyfforddiant ar y cyd i ddod yn arweinwyr cerdded cymwys, gan eu galluogi i gydweithio i arwain y grwpiau ar draws Caerdydd a’r Fro.

Diolch i arian Loteri’r Staff, llwyddodd y tîm i gaffael polion cerdded ychwanegol, gan alluogi’r gweithgaredd i gael ei gyflwyno i wahanol ardaloedd ar draws Caerdydd a’r Fro, a chaniatáu i fwy o gleifion gael mynediad at y gweithgaredd hynod fuddiol hwn.

Mae’r fenter wedi creu grŵp o arweinwyr cymheiriaid sydd â phrofiad bywyd, ac mae hyn wedi arwain at ymagwedd gymunedol, gan ddarparu rhwydwaith o gefnogaeth i bobl â chyflyrau hirdymor y tu allan i wasanaethau gofal iechyd traddodiadol, gan gynnwys y rhai sy’n aros am ofal. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan wedi rhannu pa mor werthfawr yw’r sesiynau iddynt:

“Mae’r sesiynau wedi helpu fy ffitrwydd, fy hyder wrth fod allan mewn parc prysur ac rydw i nawr yn cerdded yn bellach nag ydw i wedi gwneud ers amser maith.”

“Rwy’n meddwl ein bod yn ystyried ein hunain yn dîm ac rydym yn siarad yn rheolaidd am ein poenau, ein hanawsterau a’n hwyliau – problemau a rennir. Mae’r sesiynau’n rhoi’r ddisgyblaeth i ni gadw at ein gilydd, a pharhau i wneud ymarfer corff.”

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o gefnogi’r prosiect hwn trwy arian Loteri’r Staff, gan gydnabod ei rôl wrth gynnig ffordd hygyrch i gleifion ymarfer corff a chyfle iddynt ymuno â chymuned gefnogol, tra’n dysgu sgiliau newydd. Rhoddir cydnabyddiaeth arbennig i Paula o Barefoot Trading Limited, a gyflwynodd yr offer ac a roddodd gymorth ychwanegol i’r grŵp. Dywedodd Robert Jones, Ffisiotherapydd yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, a gyflwynodd y cais, fod Barefoot Trading Limited yn “enghraifft wirioneddol o gwmni lleol sy’n canolbwyntio ar y gymuned.”

Gallwch ddarganfod mwy am sut i ymuno â Loteri’r Staff, a sut i wneud cais am arian i wella’ch adran trwy ymweld â’n gwefan.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.