Rhoi

Ar ôl dioddef anaf difrifol i’w ben, a bod mewn coma am fis yn 2018, mae Ifan Owens wedi bod yn rhoi yn ôl i’r Uned Gofal Dwys i ddangos ei ddiolch am y driniaeth ardderchog a gafodd. Yn ystod cyfyngiadau symud 2020, cafodd ef a’i ffrind (Tom Burns, sydd wedi gadael y busnes ers hynny oherwydd ymrwymiadau eraill) syniad i ddechrau brand dillad, a daeth hwn yn realiti yn fuan iawn drwy sefydlu siop ddillad yr WYDDFA.  

Mae’r WYDDFA yn cynnig amrywiaeth o grysau-T, crysau chwys, hetiau a dillad cnu 100% figan a gynhyrchir yn gynaliadwy mewn ystod o ddyluniadau minimalaidd. Mae eu brand yn seiliedig ar angerdd y perchennog am ffordd o fyw egnïol yn yr awyr agored, gan ddilyn yr arwyddair “camau bach sy’n cyrraedd y copa”.

Dywedodd Ifan: “Ar ôl trefnu popeth gyda’r busnes, y logo, y slogan a’r eitemau; roeddwn i’n teimlo mai’r cam nesaf oedd gweld beth allwn ni ei wneud gyda’r arian pe baem yn llwyddiant. A’r peth amlwg i mi, oedd rhoi 5% o’r elw i’r uned a achubodd fy mywyd. “Camau bach sy’n cyrraedd y copa” yw ein slogan, ac mae hyn yn dangos i fi bod camau bach wedi fy helpu i gyrraedd lle rydw i nawr. Diolch yn fawr i bawb a helpodd fi!”

Hoffai Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ddweud diolch o galon i Ifan am wneud yr addewid i gefnogi’r ICU, fel y gallant barhau i achub bywydau!

I edrych ar siop yr WYDDFA, ewch i: https://www.wyddfaclothing.com/

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.