Rhoi

Hoffai pawb yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ddiolch o galon i Dîm B6 a dymuno’n dda i’r aelodau gyda’u her Lands End i John O’Groats er budd Ward B6 yn Ysbyty Athrofaol Cymru!

Fel nifer o adrannau eraill, rhoddwyd dyletswyddau newydd i aelodau staff Ward B6 yn hytrach na’u dyletswyddau clinigol arferol yn ystod 2020 a 2021 i gefnogi ymateb Bwrdd Iechyd y Brifysgol i bandemig COVID-19.

Dywedodd aelodau’r tîm “Rydym yn nyrsys sydd wedi bod yn gweithio yng nghanol pandemig COVID-19 ac rydym wedi bod yn gweithio ar ein hiechyd meddwl. Nawr rydym yn canolbwyntio ar ein hiechyd corfforol hefyd. Roedd cael ein hadleoli mewn ymateb i COVID wedi dweud arnom yn emosiynol ac yn gorfforol, ond rydym yn dod drwyddi ar yr ochr arall a bellach rydym yn canolbwyntio ar ddyfodol y ward hefyd.”

O ganlyniad, roedd tîm Ward B6 yn dymuno cefnogi ei adran felly heriodd yr aelodau eu hunain i gwblhau Her Lands End i John O’Groats ym mis Mawrth, gan geisio cwblhau’r her 837 milltir drwy redeg, cerdded a beicio.

Mae’r aelodau’r tîm yn cyflawni’r her er mwyn codi arian i Ward B6, a dywedodd un ohonynt “byddem wrth ein bodd yn codi arian i’r ward er mwyn gwneud bywyd ychydig yn fwy cyfforddus i’n cleifion pan fyddant yn aros gyda ni. Byddwn ni fel staff yn ogystal â’r cleifion yn gwerthfawrogi unrhyw rodd – yn fawr neu’n fach”. 

Rydym ni yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn gwerthfawrogi’r caredigrwydd hwn, ac ar ran timau’r GIG yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, hoffem ddiolch o galon i Dîm B6 am ddangos caredigrwydd a haelioni unwaith eto, a phob lwc gyda’r her.

Gallwch helpu i godi mwy o arian drwy gyfrannu ar dudalen y Tîm; https://www.justgiving.com/fundraising/B6-Dream-Team

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut gallwch chi helpu Timau rheng flaen y GIG a #SpreadTheLove yn ystod y pandemig, ewch i wefan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro; https://healthcharity.wales/how-to-help-during-covid-19/, anfonwch e-bost atom ar; Fundraising.cav@wales.nhs.uk neu gallwch roi yma; https://www.justgiving.com/campaign/spreadthelove

Mae staff rheng flaen y GIG yn mynd i weithio er mwyn ein cadw ni a’n hanwyliaid yn ddiogel. Y peth gorau y gallwn ni ei wneud nawr yw dilyn canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.