Rhoi

Mae nifer o fusnesau a sefydliadau wedi cefnogi staff a chleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae pobl wedi rhoi bwyd, nwyddau ymolchi, benthyca cerbydau a llawer iawn mwy, sy’n dangos bod cymunedau’n gwerthfawrogi gwaith y GIG yn fwy nag erioed.

Dywedodd Simone Joslyn, Pennaeth y Celfyddydau ac Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro: “Hoffwn ddiolch i’r holl fusnesau a sefydliadau sydd wedi cefnogi cleifion a staff y Bwrdd Iechyd drwy gyfrannu drwy ein Helusen Iechyd. Mae eich caredigrwydd wedi bod yn aruthrol ac rydym yn eithriadol o ddiolchgar am bopeth a wnaethoch chi i helpu i wneud gwahaniaeth i’n cleifion ac i’n staff pan oedd angen hynny arnynt fwyaf. Diolch yn fawr.”

Dyma rai o’r busnesau a’r sefydliadau a fu’n cydweithio er mwyn helpu i ymateb i Covid-19.

Cefnogodd Nathaniel Cars y Bwrdd Iechyd yn ystod y pandemig drwy fenthyca 12 cerbyd i’r gwasanaeth y tu allan i oriau eu defnyddio ac er mwyn cludo profion Covid rhwng safleoedd ysbytai. Maent hefyd wedi cyfrannu 5,000 o eitemau PPE i helpu ein staff ar y rheng flaen.

Derbyniodd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro roddion hael gan Elusennau’r GIG Gyda’i GIlydd i helpu unigolion mewn cymunedau pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn ystod Covid-19.  Mae Tîm Elan yn un maes sydd wedi derbyn cyllid gan Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd. Mae bydwragedd Tîm Elan yn gofalu am fenywod y mae angen cefnogaeth gymdeithasol ychwanegol arnynt. Bydd yr arian yn helpu i ddarparu eitemau hanfodol i geiswyr lloches sy’n feichiog, sy’n dod o gefndiroedd BAME a difreintiedig yn aml iawn.

Mae Grosvenor Interiors wedi helpu i greu mannau tawel braf yn ein hysbytai – rhywle i staff y Bwrdd Iechyd gael seibiant o’r wardiau er mwyn ymlacio a gorffwyso, yn haeddiannol iawn. Gallwch wylio sut aethant ati i helpu i drawsnewid yr Hafan i Staff yn adain Glan-y-Llyn yma: http://ow.ly/r0YI30rz0BE

Pan symudodd yr Uned Argyfwng Pediatreg i Ysbyty Plant Cymru, roedd yn golygu bod cleifion ifanc yn gorfod cerdded y tu allan yn y glaw er mwyn cael y driniaeth roedd ei hangen arnynt. Diolch i Willmott Dixon am roi ymbaréls mawr i ni er mwyn i’r plant fynd i gael eu gofal heb wlychu. Hefyd, fe wnaethant roi talebau ar gyfer digwyddiadau Nadolig yr Elusen Iechyd yn ogystal â choeden Nadolig fawr er mwyn helpu i greu naws y Nadolig yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Mae Tîm Gwneud Iawn â’r Gymuned Gwasanaethau Prawf Cymru wedi helpu gyda logisteg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Fe wnaeth y tîm ddanfon bocsys dathlu Diwrnod VE i ysbytai, gan helpu i gludo’r nifer fawr o fwyd a nwyddau ymolchi a dderbyniwyd, a’u rhannu ar draws safleoedd ysbyty, a chasglu rhoddion o siopau ac archfarchnadoedd ledled Caerdydd a Bro Morgannwg er mwyn eu defnyddio yn yr Hafanau i Staff.

Mae Poppi Contract Furniture wedi helpu i ddodrefnu’r Hafanau i Staff a’r ystafelloedd ymneilltuo yn ystod Covid-19, gan sicrhau bod gan staff rywle i gael gorffwys yn ystod shifft brysur. Mae Poppi hefyd wedi helpu gyda gwobrau raffl a digwyddiadau er mwyn codi arian a hynny yn ystod cyfnod pan oedd llai o lawer o roddion ar gael i elusennau.

Roedd y cwmni, Bws Caerdydd, yn dymuno gwneud rhywbeth i helpu ei elusen GIG leol, felly roedd staff yn cael eu hannog i gael diwrnodau gwisgo i fyny a gwisgo’n anffurfiol er mwyn codi arian er budd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Roedd y themâu yn cynnwys Hawäi, pinc ac rydym yn credu ein bod ni wedi gweld Elvis yn gyrru un o’r bysus un tro hyd yn oed!

The Golden Cross – cefnogodd Rob Burnett a’r tîm staff eu GIG lleol yn ystod Covid-19 gydag amrywiaeth o sioeau, digwyddiadas a gweithgareddau codi arian.

Bu Canolfan Siopa Dewi Sant, Caerdydd yn cefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro dros y Nadolig, drwy ofyn i siopwyr gyfrannu i’w helusen GIG leol. Roedd codau QR yn cael eu harddangos mewn mannau lle’r oedd pobl yn ciwio yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant, yn ogystal â mewn lifftiau ac ar y grisiau i’r meysydd parcio, yn gofyn yn garedig i siopwyr sganio’r cod i gefnogi eu helusen GIG leol.

Diolch i Blue Light Card ac In Kind Direct am 21 paled o ddanteithion, nwyddau ymolchi a phethau da i staff y GIG, a hynny ar adeg lle’r oedd eu hangen fwy nag erioed. Roedd pawb yn hapus ac yn gwerthfawrogi’n fawr.

Diolch i Jayne Morgan, Lewys Helyar, Amy Lewis a Phwyllgor Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Canolfan Feddygol Caerdydd am eu cefnogaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Roedd y tîm, yn garedig iawn, wedi gadael i Elusen Iechyd y Bwrdd Iechyd ddefnyddio’r Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol fel Hafan i Staff am nifer of fisoedd pan oedd y pandemig ar ei anterth.

Roedd archfarchnadoedd yn gefnogol iawn hefyd, gyda throlïau casglu yn y siopau, mannau cyfrannu a thuniau casglu arian. Diolch yn fawr i Sainsbury’s, Asda, Tesco, Coop a Boots am eu haelioni.

I gael rhagor o wybodaeth am sut gallwch chi gefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, ewch i: www.healthcharity.wales/donate

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.