Rhoi

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn gweithio gyda’r elusen leol, Pedal Power Caerdydd, ac yn talu am wirio cyflwr beics am ddim ledled safleoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Bydd pob beic yn cael slot o 30 munud lle bydd rhywun yn gwirio ei gyflwr ac yn gwneud mân atgyweiriadau ar y safle. Bydd gan dîm Pedal Power stondin symudol ac offer i atgyweirio’r beic a bydd rhagofalon Covid-19 ar waith.

Os bydd angen mwy o waith atgyweirio ar eich beic, gallant roi gwybod i chi beth yw hynny a byddwch yn gallu trefnu i fynd â’ch beic naill ai i safle Pedal Power Caerdydd ym Mhontcanna, neu os ydych chi’n defnyddio siop feics leol, byddwch yn cael gwybodaeth ynghylch pa waith atgyweirio sydd angen ei wneud.

Cofiwch fanteisio ar y cyfle hwn i sicrhau bod gennych chi feic ‘iach’!

Mae modd trefnu slot rhwng 12pm a 4pm drwy ddilyn y dolenni isod:

  • Gwirio Cyflwr Beics – Ysbyty Dewi Sant – 22 Ebrill 2021 – archebwch yma
  • Gwirio Cyflwr Beics – Ysbyty’r Barri – 29 Ebrill 2021 – archebwch yma.
  • Gwirio Cyflwr Beics – Ysbyty Athrofaol Llandochau – 6 Mai 2021 – archebwch yma.
  • Gwirio Cyflwr Beics – Ysbyty Brenhinol Caerdydd – 13 Mai 2021 – archebwch yma.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.