Rhoi

Mae’r Ffotograffydd Conor Elliott, o Benarth yn gobeithio annog pobl i gefnogi’r GIG a gweithwyr allweddol eraill mewn ffordd newydd. Y llynedd roedd enfys yn ffordd dda iawn o ddangos ein bod ni’n cefnogi ac yn gwerthfawrogi’r GIG. Nawr, mae’n teimlo mor bwysig ag erioed i ni barhau i ddangos y gefnogaeth honno. Felly, mae’n gofyn i’r gymuned ddangos symbol newydd yn eu ffenestri: pili pala.

Mae’r pili pala yn symbol perffaith. Fel yr enfys, mae’n symbol o obaith. Mae hefyd yn cael ei ystyried yn ddelwedd gadarnhaol iawn o enedigaeth ac adfywio. Mae’r posibiliadau i fod yn greadigol yn ddiddiwedd. Mae’n ddelwedd hawdd i blant iau ac i bawb ei chreu. Wrth gwrs, nid yw Conor yn diystyrru’r enfys o gwbl, ac mae’n bosibl parhau i ddefnyddio’r enfys a’r pili pala. Ond mae’n teimlo bod gofyn i bobl wneud yr un peth â’r llynedd braidd yn ddiog. Mae hefyd yn teimlo bod pobl yn dechrau diflasu ar y pandemig parhaus ac mae’n dymuno dangos i’r GIG nawr yn fwy nag erioed nad ydym ni wedi anghofio amdano. Felly gall cyflwyno symbol newydd roi bywyd newydd i rywbeth a oedd yn llwyddiannus iawn y llynedd.

Y llynedd, ar ôl sylwi ar y gefnogaeth greadigol lle’r oedd pobl yn rhoi llun enfys yn eu ffenestri yng nghymunedau Penarth a’r Barri ym Mro Morgannwg, aeth Conor am dro ar hyd y strydoedd yn tynnu lluniau o’r gwaith celf gan greu mosaics mawr 6 troedfedd wrth 4 troedfedd a oedd wedi’u creu allan o filoedd o ffotograffau. Mae’r mosaics bellach yn cael eu harddangos yn ysbytai Llandochau a’r Barri yn y Fro.

“Mae hwn yn gyfle newydd i ddangos i’r GIG ac i weithwyr allweddol bod pobl yn dal i’w cefnogi yn ystod y cyfnod anodd yma. Mae’n gysyniad syml iawn sy’n gallu cael effaith enfawr wrth i ni wynebu’r ymdrech olaf hon i gael bywyd normal unwaith eto.”

“Mae’r tywydd yn dechrau gwella. Mae’r gwanwyn ar ei ffordd. Bydd hwn yn gyfle gwych i ychwanegu lliw at ein ffenestri unwaith eto drwy wneud rhywbeth creadigol a theimlo’n gadarnhaol eto, cyfle i greu tipyn o lawenydd. Byddai’n dda gweld pobl yn gwenu unwaith eto.”

Gobeithio y bydd hyn yn lledaenu mor bell â phosibl. Gall pobl gymryd rhan mewn sawl ffordd yn eu cymunedau eu hunain a bod mor greadigol â phosibl. Mae’n ffordd bwysig i bobl gefnogi rhywbeth mor bwysig â’r GIG, sy’n dal i fod o dan gymaint o bwysau, a’r holl weithwyr allweddol. Rydym yn wynebu cyfnod o adfywio yn ein cymunedau a’n bywyd. Ar raddfa fwy, gall hyn hyd yn oed anfon neges o obaith o amgylch y byd, drwy’r ‘Effaith Pili Pala’.

E-bost: conor.elliott@ntlworld.com Website: www.conorelliottphotography.com blog mosaic y GIG: www.conorelliottphotography.com/blog

Instagram: conorelliott123

Symudol: 07814621817

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.