Rhoi

Yn ddiweddar, cafodd rhai o dîm Canolfan y Fron a’r tîm Codi Arian y pleser o gwrdd â Rhian Griffiths, claf Canolfan y Fron a’i chydweithiwr Catherine Evans o Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru.

Yn gynharach yn y flwyddyn, trefnodd Catherine ynghyd â Delyth Gray a tua 25 o gydweithwyr eraill o Wasanaethau Corfforaethol Estyn, her o gerdded 870 milltir rhyngddynt, sy’n cwmpasu cyfanswm milltiroedd Llwybr Arfordir Cymru, mewn mis!

Roedd pob un ohonynt yn gwneud hyn i gefnogi eu ffrind a’u cydweithiwr Rhian, a oedd yn derbyn triniaeth ar gyfer canser y fron, ac i godi arian at Apêl Canolfan y Fron Caerdydd a’r Fro yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Adeg yr her, dywedodd Delyth, “Rydym yn cymryd rhan yn yr her arbennig hon i gefnogi cydweithiwr arbennig, Rhian Griffiths, sy’n cael triniaeth yng Nghanolfan y Fron ar hyn o bryd.  Mae Rhian yn gydweithiwr a ffrind caredig, ystyriol a bywiog.  Rydym yn colli ei chwmni yn fawr ar hyn o bryd ac yn edrych ymlaen at ei gweld yn ôl yn y gwaith pan fydd hi wedi gwella’n llwyr.  Mae Rhian yn gerddwr brwd, felly mae’r her hon yn ddewis perffaith!”

Mae Rhian wedi’i syfrdanu gan y gefnogaeth, ac wrth ei bodd gyda’r cyfanswm codi arian o £5,096.25 i gefnogi Apêl Canolfan y Fron!  Dywedodd, “Mae wedi bod yn gymysgedd gyson o adegau da ac adegau gwael, ond mae’r tosturi a’r gofal wedi bod yn anghredadwy.  Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn o fod wedi cael llawfeddyg mor wych â Lucy Satherley sydd mor angerddol am ei gwaith.  Nid yw rhannu newyddion anodd byth yn hawdd ond mae gan y staff natur mor dawel, caredig a phendant, rydych chi’n teimlo’n ddiogel.  Mae derbyn y newyddion bod gennych ganser yn ddinistriol ac yn achosi llawer o ofid.  Fodd bynnag, ar ôl y sioc gychwynnol, roeddwn i’n gwybod fy mod i mewn dwylo diogel.”

Roedd Lucy Satherley, Llawfeddyg Ymgynghorol yng Nghanolfan y Fron, yn gallu ymuno â ni pan gwrddon ni â Rhian ac roedd hi wrth ei bodd yn ei gweld hi.  Dywedodd Lucy, “Roedd yn bleser pur gweld Rhian yn edrych mor dda a chael cwrdd â Catherine.  Rydym mor ddiolchgar i Rhian a’i chydweithwyr am ymgymryd â’r her wych hon a hoffem ddiolch i bob un ohonynt, a’r rhai sydd wedi eu cefnogi a’u noddi, am eu haelioni wrth gefnogi Apêl Canolfan y Fron.  Bydd eu gwaith caled a’u caredigrwydd yn ein helpu i ddarparu’r offer a’r adnoddau gorau i sicrhau bod ein staff gwych yn gallu parhau i ddarparu gofal rhagorol i’n cleifion.  Da iawn a diolch yn fawr gennym ni i gyd!”

Yn ystod ei chyfnod yng Nghanolfan y Fron, bu Rhian hefyd yn derbyn gofal gan Jessica Chick, Nyrs yng Nghanolfan y Fron, a oedd yn ddisgybl i Rhian mewn blynyddoedd blaenorol!  Yn anffodus, nid oedd Jess yn gallu ymuno â ni pan gwrddon ni â Rhian, ond roedd gan Rhian feddwl mawr ohoni ac roedd yn ddiolchgar iawn am y gofal a ddarparodd.

Mae Rhian yn gwneud yn eithriadol o dda gyda’i thriniaeth, ac yn ôl yn gweithio mewn rôl newydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.  Mae hi eisoes yn cynllunio digwyddiad codi arian arall ar gyfer haf 2023 ac yn gobeithio codi arian i brynu offer newydd fydd yn rhoi cefnogaeth uniongyrchol i ofal unrhyw un arall sy’n cael triniaeth yng Nghanolfan y Fron Caerdydd a’r Fro.

Dywedodd Sue Dickson-Davies, Uwch Swyddog Codi Arian Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ac Apêl Canolfan y Fron, “Roedd yn bleser cwrdd â Rhian a Catherine, a chael diolch iddynt yn bersonol am gefnogi ein Hapêl Canolfan y Fron.  Bûm yn cydweithio’n agos iawn â Delyth Gray i gynorthwyo gydag elfen codi arian yr her, ac roedd yn hyfryd dilyn eu cynnydd a rhannu eu lluniau arbennig.  Maen nhw wedi pasio eu targed gwreiddiol o bell ffordd, a oedd yn parhau i godi yn sgil y gefnogaeth a gafwyd, gan ddangos cymaint roedden nhw i gyd yn ei feddwl o’u ffrind a’u cydweithiwr.  Edrychaf ymlaen at gefnogi Rhian gyda’i digwyddiadau codi arian fydd yn parhau, a hoffwn ddiolch i bawb a fu’n cymryd rhan hyd yma am gefnogi ein Hapêl Canolfan y Fron.”

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.