Rhoi

Roedd yr ystafell staff yn edrych yn hen ffasiwn, ac roedd angen rhoi gweddnewidiad iddi drwy wneud ychydig o waith addurno ac adnewyddu yn yr ardal.  O ganlyniad i gronfeydd gan Elusen iechyd Caerdydd a’r Fro, roedd modd mynd ati i ailaddurno’r ardal gyda help gan Dîm Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau’r Bwrdd Iechyd.

Fel rhan o’r gwaith o adnewyddu’r ardal hon, darparwyd gwaith celf newydd ar gyfer yr uned.  Creodd yr artist lleol Nathan Wyburn collage bendigedig, yn cynnwys cannoedd o luniau o staff yr Uned Achosion Brys a’i greu ar siâp draig.

Mae staff o’r Uned Achosion Brys yn dîm agos iawn, a nhw yw’r drws blaen i’r ysbyty yn ddyddiol.  Maent yn aml yn wynebu adegau heriol tu hwnt, yn enwedig yn ystod y 18 mis diwethaf, ac o ganlyniad i natur y gwaith a wneir ganddynt, maent yn aml mewn sefyllfaoedd anodd eu dychmygu.  Mae’r gwaith celf yn dangos tîm llawn wynebau, wedi’u huno fel un ddelwedd o gryfder a dewrder.

Dywedodd Laura Jones, Prif Nyrs yn yr Uned Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru: “Gwnaethom ddewis delwedd y ddraig gan ein bod yn gwisgo’r ddraig fel rhan o’n gwisg swyddogol, mae gyda ni bob dydd ac mae wir yn symboleiddio’r cryfder, y natur benderfynol a’r dewrder sydd gan y staff yn yr Uned Achosion Brys er mwyn delio â’r heriau maent yn eu hwynebu. 

“Hoffwn ddiolch i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro am ein helpu gyda’r prosiect hwn, a diolch yn fawr iawn i Nathan Wyburn am greu’r ddelwedd wych hon sy’n golygu cymaint i ni i gyd.”

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.