Rhoi

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Pamela Propert am godi swm anhygoel o £515.70 i gefnogi Apêl Prop, sy’n darparu cymorth i unigolion y mae anafiadau i’r ymennydd a thrawma pen wedi effeithio arnynt. Trefnodd Pam Fore Coffi hyfryd yn Eglwys a Neuadd Gymunedol Sant Paul yn Grangetown, gan ysgogi ei chymuned leol i gyfrannu at yr achos.

Mae ŵyr Pam yn cael triniaeth ar hyn o bryd yn ward Anafiadau i’r Ymennydd Ysbyty Athrofaol Llandochau. Trefnwyd y Bore Coffi gan Pam i ddiolch i’r nyrsys eithriadol a’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi bod yn allweddol yn adferiad ei hŵyr.

Bydd pob ceiniog a godir yn mynd tuag at ariannu prosiectau sy’n anelu at wella bywydau cleifion sydd wedi dioddef o anafiadau a gafwyd i’r ymennydd. Mae rhoddion blaenorol eisoes wedi helpu i brynu technoleg cyfathrebu ar lechen a ysgogir gan y llygaid, sesiynau therapi cerddoriaeth, a chalonnau siarad—dyfeisiau arbennig sy’n galluogi teuluoedd i recordio negeseuon llais cysurus i’w hanwyliaid wrando arnynt yn ystod eu harhosiad yn yr ysbyty.

Unwaith eto, diolch i Pam a chymuned Eglwys Sant Paul am eu haelioni anhygoel. Mae eich cefnogaeth yn amhrisiadwy!

Os hoffech chithau hefyd gael effaith gadarnhaol ar fywydau cleifion ag anaf i’r ymennydd, rydym yn eich gwahodd i ymweld â: https://healthcharity.wales/donate/

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.