Rhoi

Yn ystod y pandemig, cyfrannodd Gareth ac Emma Bale £500,000 i gronfa Covid-19 Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, o’r enw #SpreadtheLove. Roedd Gareth ac Emma yn dymuno rhoi rhywbeth yn ôl i’w GIG lleol, gan fod Gareth wedi cael ei eni yn uned famolaeth Prifysgol Athrofaol Cymru, ac oherwydd bod yr ysbyty wedi darparu nifer o wasanaethau iddynt hwy a’u teulu a’u ffrindiau.

Mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi prosiectau sy’n mynd i’r afael â lles cleifion, staff, gwirfoddolwyr a chymunedau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Yn y dyfodol, bydd lles cleifion, staff, gwirfoddolwyr a chymunedau yn hanfodol. Mae’r rhodd hael yma wedi galluogi’r Elusen Iechyd i dalu am y prosiectau canlynol:

Darparu Hafan i Staff ym Mhrifysgol Athrofaol Cymru

Yn ystod pandemig Covid-19 ac yn ystod cyfnodau heriol eraill, mae’n hollbwysig bod ein staff yn gallu mynd i rywle i encilio ac ymlacio unrhyw bryd yn ystod eu shifft.

Mae’r Hafan i Staff wrthi’n cael ei chreu, yn ystod y cyfnod ymateb, a bydd ar gael yn ystod cyfnodau cadernid ac adfer y pandemig a bydd yn dod yn gyfleuster parhaol. Bydd yr Hafan i Staff yn rhywle hyblyg i fodloni gofynion staff fel maent yn newid.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://www.youtube.com/watch?v=Cf_UDxOVUK4

Cymorth Lles Rhagweithiol i Staff a Rheolwyr

Prosiect dwy flynedd yw hwn, a’r nod yw ymgorffori lles yn llwybrau gyrfa staff y Bwrdd Iechyd. Gobeithio y bydd hyn yn arwain at fanteision tymor hir, gan ddefnyddio model y Gymdeithas ar gyfer Meddygaeth Alwedigaethol i ddatblygu cynlluniau ac adnoddau lles a fydd yn arwain at ddull gweithredu ataliol a rhagweithiol tuag at les ar draws y Bwrdd Iechyd. Bydd yn cefnogi staff a rheolwyr i ailadeiladu eu cadernid seicolegol yn y gweithle, nid yn unig yn yr amgylchedd presennol gyda Covid-19, ond yn ystod gweddill eu gyrfa gyda’r GIG hefyd.

Adsefydlu ar ôl Covid-19 Hir: Fy Nghadw’n Iach a Gwella

Cefnogi cynllun tair blynedd i ddatblygu’r adnodd digidol rhyngweithiol a’r ymgyrch ‘Fy Nghadw’n Iach’ er budd cleifion a staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Bydd y llwyfan digidol yn adnodd hanfodol y gellir cyfeirio pobl ato, drwy fynychu clinig adsefydlu amlddisgyblaethol ‘COVID-Hir’.  Mae’r Bwrdd Iechyd yn sefydlu’r clinigau hyn i gefnogi pobl sy’n cael symptomau syndrom ôl-Covid neu ‘COVID-Hir’ yn ystod yr wythnosau a’r misoedd ar ôl cael Covid-19. Gan nad yw nifer o unigolion yn gallu ymweld â safleoedd Bwrdd Iechyd neu am eu bod yn teimlo’n bryderus ynghylch mynd i ysbyty, bydd hyn yn eu galluogi i gael addysg, ymarferion, triniaeth a/neu gymorth seicolegol o bell.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.