Mae Robin Rees yn fyfyriwr gradd meistr ym Mhrifysgol De Cymru, ac mae’n astudio Ymarfer Celf: Y Celfyddydau, Iechyd a Lles. Fel rhan o’r cwrs, mae Robin yn gobeithio galluogi gweithgareddau creadigol ystyrlon rhwng unigolion sydd wedi cael diagnosis o glefyd Alzheimer a/neu dementia, a’u prif ofalwyr, gan ganfod unrhyw rwystrau a allai fod yn atal hyn.
Er mwyn penderfynu a yw’r prosiect yn effeithiol, mae’n rhaid i Robin ei brofi yn y lleoliad bwriadedig a chael adborth er mwyn gweld beth sy’n gweithio, beth sydd ddim yn gweithio a sut mae modd ei ddatblygu er mwyn bodloni anghenion pobl sydd ag Alzheimer/dementia a’u gofalwyr.
Mae Robin yn chwilio am wirfoddolwyr sydd wedi cael diagnosis o Alzheimer/dementia cynnar i gymedrol sy’n cael cefnogaeth gan brif ofalwr, neu sy’n brif ofalwr sy’n cefnogi rhywun sydd wedi cael diagnosis o Alzheimer/dementia cynnar i gymedrol; nid oes yn rhaid cael unrhyw brofiad creadigol blaenorol.
Bydd y cyfnod prawf yn para tan 12/03/21. Pan fydd y ffurflenni caniatâd wedi cael eu llofnodi a’u dychwelyd, byddwn yn anfon pecyn drwy’r post i’r rhai sy’n cymryd rhan, a fydd yn cynnwys deunyddiau, cyfarwyddiadau a dogfennau adborth. Yn ddelfrydol, bydd gofyn i’r rhai sy’n cymryd rhan neilltuo tua dwy awr yr wythnos i’r prosiectau creadigol (mae 5 i gyd) a deng munud bob nos i gwblhau’r gweithgaredd ‘diolchgarwch’.
Os ydych chi’n bodloni’r gofynion ac os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y treial, anfonwch e-bost at Robin i gael rhagor o wybodaeth.