Rhoi

Hoffai Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ddiolch o galon i Chris Pizey, a dymuno pob lwc iddo wrth iddo ddringo mynydd Pen y Fan bob dydd ym mis Tachwedd i godi arian ar gyfer Ward Pelican. Bydd yn cefnogi’r staff a ofalodd am ei ferch, Sienna Lilly Griffiths Pizey, a gafodd ddiagnosis o Stenosis Aortig difrifol o oedran ifanc iawn.

Roedd un o falfiau calon Sienna wedi’i rhwystro yn sgil y cyflwr Stenosis Aortig, a oedd yn golygu bod yn rhaid i Sienna gael llawdriniaeth agored ar y galon i amnewid falf aortig, lle cafodd y falf wedi’i rhwystro ei disodli gan un mecanyddol.

Diolch i’r staff arwrol yn Ward Pelican, sydd wedi’i lleoli yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, fe lwyddodd Sienna i wella’n gyflym yn dilyn ei llawdriniaeth. Mae hi’n parhau i ymweld â Ward Pelican i gael samplau gwaed, ac mae hi mewn cysylltiad aml ag aelodau’r staff i gael arweiniad ar ddos ei meddyginiaeth i atal clotiau gwaed.

Dywedodd Chris: “Allem ni fyth egluro pa mor ddiolchgar ydyn ni i gael y gofal mae’r ysbyty’n ei ddarparu ac am y cyfan maen nhw’n ei wneud i’w chadw’n hapus ac yn iach.”

I ddathlu iechyd ei ferch, ac i ddiolch i’r staff arbennig sy’n gofalu am Sienna, bydd Chris yn dringo mynydd Pen y Fan bob dydd ym mis Tachwedd! Y mynydd yw’r copa uchaf yn Ne Cymru, sydd wedi’i leoli ym Mannau Brycheiniog. Gyda dringfa o 440m, bydd Chris yn wynebu cyfanswm enfawr o 13,200m o ddringo drwy gydol y mis.

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn dymuno pob lwc i Chris gyda’i daith a bydd yn ei gefnogi’n ddyddiol wrth iddo ddringo’r copa eiconig hwn.

Os hoffech chi gefnogi Chris gyda’r her anhygoel hon, cyfrannwch ar ei dudalen JustGiving os gwelwch yn dda.

Wedi’ch ysbrydoli i herio eich hun? Cysylltwch ar bob cyfrif i rannu eich syniadau codi arian gyda ni ar fundraising.cav@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.