Rhoi

Ddydd Sul 1 Hydref 2023, cynhelir 20fed Hanner Marathon Caerdydd ar draws y ddinas. Gan yr amcangyfrifir bod miloedd o bobl yn cymryd rhan, rydym yn tynnu sylw at ein rhedwyr ysbrydoledig.

Mae Jayne Catherall, cefnogwr hir-amser a chyn-gydweithiwr yr Elusen Iechyd, yn ymgymryd â Hanner Marathon Caerdydd unwaith eto eleni; y tro hwn i godi ymwybyddiaeth o ganser y prostad.

Fel rhedwr brwd, mae Jayne wedi ymgymryd â sawl her yn y gorffennol o 10K y Barri, i Hanner Marathon Caerdydd, a hyd yn oed Marathon Llundain.

Meddai Jayne, “Cafodd fy nhad ddiagnosis o ganser y prostad ym mis Gorffennaf 2019 ac yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi darganfod, yn anffodus, ei fod wedi lledaenu i’w esgyrn ac mae bron ym mhobman – ei benglog, sternwm, asennau, cefn, cluniau, rhan uchaf ei forddwyd a mwy.

“Byddaf yn codi arian i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro sef elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro sy’n cefnogi’r holl wardiau, adrannau, ysbytai, gwasanaethau cymunedol a meysydd ymchwil ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.” Os hoffech chi gefnogi Jayne a’i helpu i gyrraedd ei nod codi arian, ewch i’w thudalen Just Giving yma.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.