Rhoi

Gyda chymorth Cronfa Bale Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, prynwyd cadair codi a gostwng newydd ar gyfer cleifion fasgwlaidd sy’n adsefydlu ar Ward 1, Adain Glan-y-Llyn, Ysbyty Athrofaol Cymru.

Mae Uned Fasgwlaidd Ranbarthol Caerdydd yn darparu diagnosis a thriniaeth ar gyfer clefydau fasgwlaidd (problemau gyda chylchrediad a phibellau gwaed). Yn dilyn canoli gwasanaethau fasgwlaidd yn Ne-ddwyrain Cymru, y Ward Fasgwlaidd (B2) yw’r Prif Ganolfan Fasgwlaidd ar gyfer Rhwydwaith Fasgwlaidd De-ddwyrain Cymru, ac mae gwasanaeth adsefydlu fasgwlaidd newydd wedi’i greu ar Ward 1, Adain Glan-y-Llyn.

Mae’r cleifion hyn yn dal i fod yng nghamau cynnar eu hadsefydliad, llawer ohonynt yn dilyn trychu aelodau isaf y corff, ac fel arfer bydd ganddynt anghenion meddygol ac adsefydlu cymhleth sylweddol eraill. Mae nifer sylweddol o gleifion fasgwlaidd sydd colli aelodau o’r corff yn llai abl i eistedd yn gyfforddus mewn cadair ysbyty gonfensiynol, neu drosglwyddo i’w cadeiriau olwyn. Maent yn elwa’n fawr o eistedd mewn cadair briodol, ddiogel yn hytrach na bod yn gaeth i’w gwely.

Bydd y cadeiriau codi a gostwng yn galluogi dilyniant o ran adsefydlu’r claf gan eu bod yn gallu gwneud mwy na chadair gogwyddo arferol. Yn ogystal â galluogi amser therapi parhaus gyda’r ffisiotherapyddion a’r therapyddion galwedigaethol, bydd y gadair hefyd yn helpu’r claf i eistedd allan o’r gwely am gyfnodau hirach ac yn ystod amser bwyd. Mae hyn yn hyrwyddo adsefydlu, cymeriant maeth, a chynllunio ar gyfer y cartref.

Dywedodd Kate Rowlands, Arbenigwr Nyrsio Fasgwlaidd: “Fel tîm, rydym wrth ein bodd ac yn ddiolchgar ein bod wedi derbyn arian i brynu’r gadair codi a gostwng hon ar gyfer ein cleifion fasgwlaidd sy’n adsefydlu.”

“Mae cadair codi a gostwng nid yn unig yn darparu sedd gyfforddus, ond gall y math arbenigol hwn o gadair gynorthwyo’r timau therapi a nyrsio i helpu claf i gyflawni ei nodau adsefydlu. Yn ogystal â’r manteision hyn, gall eistedd mewn cadair gefnogi lles meddyliol claf, a hyrwyddo profiad cadarnhaol o ran eu hadferiad, yn enwedig pan fydd teulu’n ymweld.”

Roedd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o gefnogi’r prosiect, gan ei fod yn cyfrannu’n uniongyrchol at adsefydliad ac adferiad cleifion. Bydd ychwanegu’r gadair yn cynorthwyo gyda’r addasiad seicolegol a ddaw yn sgil colli aelod o’r corff a’r cyfnod adfer, a bydd yn dod yn nod cadarnhaol yn nhaith adsefydlu cleifion.

Os byddai eich ward neu adran yn elwa o offer ychwanegol a fydd o fudd i gleifion neu staff, cysylltwch â fundraising.cav@wales.nhs.uk i drafod eich prosiect.

Er mwyn cefnogi prosiectau fel hyn, rydym yn eich annog i gyfrannu at ward neu adran o’ch dewis.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.