Rhoi

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o gyhoeddi bod Victoria Hicks, Prif Nyrs y Ward, wedi’i choroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Ebrill.

Yn ystod y pandemig, gweithiodd Vicky yn ddiflino i gadw ei chleifion yn ddiogel. Roedd hi hefyd yn rhan allweddol o’r gwaith o hwyluso a chefnogi staff drwy sawl cam y bu’n rhaid eu cymryd i sefydlu wardiau ar gyfer cleifion â COVID-19 a chleifion nad oedd ganddynt COVID-19. Cyflawnwyd hyn i gyd heb gymorth dirprwy. Yn ogystal â threfnu a sefydlu’r wardiau hyn, gwnaeth Vicky hefyd ddatgomisiynu wardiau.

Cyfeirir ati fel rhywun sy’n cytuno i helpu ar fyr rybudd, ac ym mis Rhagfyr 2020, cefnogodd Victoria y gwaith o sefydlu’r ysbyty maes, Calon y Ddraig. Roedd hi’n aelod craidd o’r broses o sefydlu gofal cleifion a oedd yn gwella yn dilyn COVID a chleifion nad oedd ganddynt COVID, a chyda thîm a sefydlwyd yn gyflym o blith nyrsys mewn gwahanol feysydd o fewn y Bwrdd Iechyd a staff dros dro.

Ers hynny, mae Vicky wedi parhau i gefnogi’r uned drwy sefydlu uned adsefydlu 50 gwely i ddechrau, sydd bellach wedi cynyddu i 66 gwely, i helpu cleifion i wella a’u galluogi i adennill eu nerth gartref.

Meddai’r Uwch-nyrs, Sian Brookes, “Mae Vicky bob amser wedi wynebu’r heriau o’i blaen yn uniongyrchol, ac wedi bod yno bob amser i’w staff a’i chleifion. Mae hi’n gymeriad tawel a digynnwrf nad yw byth yn ymddangos fel pe bai’n cael ei llethu gan yr heriau y mae’n eu hwynebu. Bob amser yn ddymunol ac yn hawdd mynd ati, mae hi’n esiampl i bawb.

“Mae Vicky wir yn haeddu cydnabyddiaeth. Ni all yr enwebiad hwn ddisgrifio’r gwaith caled, yr ymroddiad a’r gefnogaeth gan Vicky dros y 18 mis diwethaf. Mae hi byth yn chwilio am gydnabyddiaeth nac yn gweld pa mor dda yw hi mewn gwirionedd.”

Bydd Vicky yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Ebrill ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae hi wrth ei bodd gyda’r enwebiad am y wobr.

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.

Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.

Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.