Rhoi

Mae’n bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gyhoeddi bod Trudy Logue, Nyrs Glinigol Arbenigol, Ysbyty Athrofaol Cymru, wedi’i choroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Tachwedd.

Mae Trudy yn gweithio fel Nyrs Arrhythmia o fewn yr adran Gardioleg ac mae’n mynd gam ymhellach ar gyfer ei chleifion. Wrth drafod yr enwebiad hwn, dywedodd claf, “Ar ôl i mi gael fy nhrosglwyddo i’r adran Gardioleg, roedd Trudy yno ar rownd gyntaf y ward ac yn aml yn galw i fy ngweld ar y ward. Ymhlith yr anhrefn a’r dryswch, roedd Trudy yn bresenoldeb cyson a helpodd fi i wneud synnwyr o’r hyn oedd yn digwydd.”

Gan fod y claf wedi cael ei dderbyn yn ystod anterth y pandemig, ni chaniatawyd ymweliadau gan deulu a ffrindiau a oedd yn golygu ei fod yn teimlo’n unig ac yn ynysig. Gan fod llawdriniaeth y claf wedi’i gohirio oherwydd haint, trefnodd Trudy ‘Fest Bywyd’ sydd yn ei hanfod yn ddiffibriliwr allanol sy’n caniatáu i’r claf ddychwelyd adref i orffwys. Yn ystod y cyfnod hwn gwnaeth Trudy gadw mewn cysylltiad rheolaidd drwy alwadau ffôn a threfnodd hefyd i Gynrychiolydd y ‘Fest Bywyd’ wneud yr un peth tan y llawdriniaeth.

Dywedodd y claf, “Sawl mis ar ôl y llawdriniaeth lwyddiannus, roedd dychwelyd i’r gwaith yng nghanol y pandemig yn hynod heriol ac rwy’n cyfaddef fy mod wedi cael trafferth. Fodd bynnag, roedd Trudy mor barod i fi gysylltu â hi os oedd angen cymorth arnaf ac roedd yn fy ngweld yn rheolaidd yn y clinig Cardioleg yn ystod fy apwyntiadau dilynol. Mae Trudy wedi bod yn hynod gefnogol a chydymdeimladol drwy’r amser.”

Disgrifiwyd Trudy fel un hynod garedig a thosturiol, ac mae’n parhau i adeiladu ar ei gwybodaeth a gwella gofal cleifion trwy ymgymryd â MSc mewn Ymarfer Clinigol Uwch. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio ar ei thraethawd hir ar brofiad cleifion sy’n defnyddio ‘Festiau Bywyd’.

Meddai’r claf, “Mae Trudy yn dawel a diwyd, ac yn fy llygaid i, mae hi’n arwr di-glod. Byddaf yn ddyledus iddi am byth.”

Bydd Trudy yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Tachwedd ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae hi wrth ei bodd gyda’r enwebiad am y wobr.

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.

Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.

Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.