Rhoi

Yn ddiweddar, cynhaliodd nifer o’n cydweithwyr eu digwyddiadau Te Mawr y GIG eu hunain i ddathlu bod ein GIG anhygoel yn 75 oed, ac i godi arian ar gyfer Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Mae Te Mawr y GIG yn de parti blynyddol y gall unrhyw un ei gynnal. P’un a ydych chi’n dod at eich gilydd gartref, yn y swyddfa neu yn y ganolfan gymunedol leol, gallwch ddathlu’r GIG trwy fwynhau paned a chacen, a chyfrannu at eich elusen GIG leol! Roedd digwyddiadau eleni yn arbennig iawn, gyda dros 5000 o bobl yn cofrestru i gynnal eu Te Mawr y GIG eu hunain, i ddangos eu gwerthfawrogiad o’r GIG.

Roedd y Ganolfan Adsefydlu ar ôl Strôc yn un o’r adrannau a gymerodd ran yn y digwyddiad. Trefnodd y tîm werthiant cacennau, raffl, a gêm o ddyfalu faint o fagiau te oedd mewn jar. Cawsant amser gwych yn dathlu carreg filltir anhygoel y GIG, gan godi swm arbennig o £351.35! Bydd yr arian yn cael ei rannu’n gyfartal i gefnogi Ein Dôl Iechyd a’r Ganolfan Adsefydlu ar ôl Strôc.

Bu’r Adran Radioleg hefyd yn dathlu, gan gefnogi Ein Dôl Iechyd drwy eu digwyddiad Te Mawr, gan godi swm gwych o £175 drwy werthu cacennau.

Diolch o galon i’n holl gydweithwyr a drefnodd y digwyddiadau Te Mawr yn eu hadrannau, ac i bawb a fu’n pobi ac yn cyfrannu. Rydym yn hynod ddiolchgar am eich cefnogaeth!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.