Rhoi

Mae’n bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gyhoeddi bod Stuart Cunningham, Rheolwr Gweinyddol y Grŵp Ymchwil Clinigol, wedi’i goroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Ionawr.

Mae Stuart yn gweithio o fewn tîm ymchwil mawr sy’n cyflwyno treialon canser hematoleg i gleifion. Mae’r adran yn ganolfan atgyfeirio drydyddol ac mae’n derbyn atgyfeiriadau ar gyfer astudio ar draws rhanbarth daearyddol mawr. Mae cydymffurfiaeth a rheoleiddio data yn hollbwysig mewn treialon clinigol ac mae Stuart wedi rhoi llawer o systemau electronig ar waith yn y grŵp sy’n sicrhau bod y broses o gofnodi data a chydymffurfiaeth wedi gwella, ac mae’n adrodd am weithgarwch treialon clinigol i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Disgrifiwyd Stuart fel rhywun sydd wedi trawsnewid ei faes drwy weithredu llawer o systemau newydd.

Dywedodd Emma Williams, Rheolwr Uned Treialon Hematoleg a Chynghorydd Clinigol i Blood Cancer UK, “Rydym yn gweithio ar dros 65 o dreialon yn yr adran – un o’r rhai mwyaf yn y Bwrdd Iechyd. Mae wedi sefydlu dull olrhain diwygiadau i sicrhau’n ddiogel bod y tîm ymchwil a’r meddygon ymgynghorol yn cael e-bost awtomatig bob mis i roi gwybod iddynt beth oedd y diwygiad diweddaraf i brotocol yr astudiaeth, ac i ba ran o’r broses Ymchwil a Datblygu y mae’n perthyn.

“Mae’r e-bost hefyd yn rhoi gwybod i’r tîm faint o gleifion sydd wedi’u recriwtio ac os ydym yn gweithio’n unol â’r amser a’r targed a nodir yn y contract. Mae unrhyw broblemau yn cael eu nodi’n hawdd ac yn gyflym a gallaf gael trafodaeth â’r PI perthnasol i ddatrys unrhyw broblemau yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Mae Noddwyr Astudio hefyd yn gallu cael y rhybuddion hyn ac yna gallant hefyd gysylltu â ni os oes unrhyw anghysondebau rhwng y trefniadau dan gontract a’r hyn a allai fod yn digwydd ar hyn o bryd.”

Yn fwy diweddar, mae Stuart wedi agor system electronig i’r staff nyrsio sy’n diweddaru cyn gynted ag y bydd pob nyrs wedi recriwtio claf fel eu bod yn monitro gweithgarwch yn gywir. Mae’r system yn ffurflen drydanol sy’n cysylltu’n awtomatig â’u dyddiaduron ac yn hysbysu’n gywir pa glaf sy’n dod, a’r hyn sydd ei angen ar gyfer yr ymweliad hwnnw, megis profion gwaed, asesiadau ansawdd bywyd, a threfnu negesydd er mwyn anfon samplau allanol.

Aeth Emma yn ei blaen, “Mae Stuart yn ddiymhongar iawn ynglŷn â’r hyn y mae’n ei wneud, ac ni fyddai byth yn cynnig ei hun ar gyfer enwebiad o’r fath, fodd bynnag, yn ein cyfarfod tîm codais yr holl waith y mae wedi’i wneud a chytunodd yr holl staff yn unfrydol y dylem amlygu pa mor drawsnewidiol mae ei waith wedi bod. Diolch, Stuart.”

Bydd Stuart yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Ionawr ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae wrth ei fodd gyda’r enwebiad am y wobr.

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.

Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.

Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.