Rhoi

Ym mis Mai eleni, galwodd ymgyrch Ras123 ar y cyhoedd i redeg milltir (neu fwy) i godi arian i elusennau sector iechyd Cymru.

Cafodd Ras123 ei threfnu gan Ras yr Iaith, digwyddiad cenedlaethol sy’n digwydd bob dwy flynedd ac yn codi arian ar gyfer prosiectau cymunedol sy’n hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg. Roedd Ras yr Iaith 2020 i fod i gael ei chynnal ym mis Gorffennaf, ond cafodd ei gohirio oherwydd rheolau cadw pellter cymdeithasol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Fodd bynnag, gofynnodd Ras yr Iaith, ynghyd â Mentrau Iaith i bobl Cymru gymryd rhan mewn ras rithiol i godi arian yn ystod y cyfnod anodd hwn. Nod Ras123 oedd annog y cyhoedd i gyfrannu mewn 3 cham hawdd: Cam 1 – rhedeg milltir neu fwy. Cam 2 – enwebu pobl eraill i gymryd rhan a Cham 3 – cyfrannu £5 neu fwy i dudalen Go Fund Me Ras yr Iaith.

Llwyddodd y digwyddiad i godi dros £2,300 a fydd yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng elusennau’r 7 bwrdd iechyd yng Nghymru i gyfrannu at anghenion iechyd cymunedol yn eu hardaloedd, sydd dan straen wrth ddelio â’r coronafeirws sy’n datblygu.

Dywedodd Lowri Jones, cadeirydd Mentrau Iaith Cymru, trefnwyr yr ymgyrch;

“Hoffem ddiolch i’r holl unigolion a theuluoedd ledled Cymru a gymerodd ran yn ein ras rithiol yn ystod yr haf ac i’r unigolion a gyfrannodd arian at yr achos. Yn anffodus mae Covid19 yn dal yn ein bywydau felly mae’n bwysig ein bod yn parhau i gefnogi ein byrddau iechyd ym mha bynnag ffordd bosibl.”

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Ras123 drwy edrych ar wefannau a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol Ras yr Iaith a Mentrau Iaith.

https://www.rasyriaith.cymru/

https://www.mentrauiaith.cymru/?lang=en

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.