Rhoi

Yn ddiweddar mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi cefnogi cais am arian i helpu Meithrinfa Tedi Bêr, Ysbyty Athrofaol Llandochau. Cyflwynodd y feithrinfa gais am arian o gronfeydd elusennol Covid-19 ar gyfer prosiect yr ardd, er mwyn helpu i gynnal gweithgareddau dan do yn yr awyr agored.

Roedd decin yng nghefn y feithrinfa’n barod, felly er mwyn gwneud yr ardal yn addas ar gyfer pob tywydd, cyflwynwyd cais am pergola pwrpasol ar gyfer yr awyr agored. Byddai hyn yn golygu bod to dros y prif decin. Felly, byddai modd defnyddio’r ardal ym mhob tywydd, gyda digon o gyfle i gael awyr iach a mwy o le ar gyfer cadw pellter cymdeithasol gyda’r plant, a hyn i gyd tra roedd y feithrinfa’n parhau i gynnig gwasanaeth yn ystod pandemig Covid-19.

Roedd y feithrinfa yn darparu gofal plant brys i staff y Bwrdd Iechyd yn ystod y cyfnod eithriadol hwn, ac roedd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o allu cefnogi’r prosiect gwerth chweil hwn.

Dywedodd tîm y feithrinfa: “Mae angen i blant wneud ymarfer corff yn yr awyr agored a chael golau dydd er mwyn eu hiechyd a’i lles, fel sy’n wir am bawb arall hefyd – ac mae’n hyd yn oed pwysicach i blant gan eu bod yn dal i dyfu a datblygu. Fel mae pob rhiant yn gwybod, os na fydd plant yn cael defnyddio eu hegni bob dydd, mae’n anodd delio â nhw dan do, yn arbennig mewn lle bychan gyda’r uchafswm mewn swigen. Mae adroddiad gan Alison Stenning a Wendy Russell yn dadlau mai’r brif ffordd y mae plant yn cael ymarfer corff yw drwy chwarae tu allan, ac roedd hi’n bwysig yn y cyfnod eithriadol hwn ein bod ni’n defnyddio’r holl le oedd ar gael.”

Rhannodd Kelly Lovell, Rheolwr Meithrinfa Tedi Bêr yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, y lluniau hyn o’r plant yn mwynhau eu hunain o dan y canopi enfys – mae eu hwynebau’n dweud y cyfan.

Dywedodd Kelly: “Bydd y plant yn gallu mynd allan dim ots beth yw’r tywydd, diolch i’r canopi. Bydd yn cyfoethogi eu profiadau dysgu ac mae wedi ymestyn y gofod sydd ar gael, ac roedd wir angen hynny arnom ni! Allwn ni ddim diolch digon i’r Elusen Iechyd!!”

I gael rhagor o wybodaeth am sut gall yr Elusen Iechyd helpu i wneud gwahaniaeth yn eich ardal chi, ewch i: www.healthcharity.wales neu anfonwch e-bost at fundraising.cav@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.