Rhoi

Llongyfarchiadau mawr a diolch i Rob Jones a gwblhaodd 10k Ellesmere yn ddiweddar i gefnogi’r Gronfa Bywyd Gwell, gan guro ei darged codi arian a chodi swm anhygoel o £572! Ddydd Sul 27 Awst, gorffennodd Rob y ras, gyda golygfeydd godidog drwyddi draw, mewn amser anhygoel o 1 awr 4 munud.

Mae’r Gronfa Bywyd Gwell yn cefnogi Canolfan Ffeibrosis Systig Cymru Gyfan i Oedolion yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, drwy ddarparu offer ychwanegol, sy’n aml yn ddrud, nad yw ar gael drwy gyllid safonol y GIG.

Mae cymhelliant Rob i ymgymryd â’r her hon yn hynod bersonol. Mae ei gariad, Vicky, yn un sy’n brwydro yn erbyn Ffeibrosis Systig. Mae Ffeibrosis Systig (CF) yn gyflwr etifeddol, lle rydych chi’n etifeddu un genyn diffygiol gan bob un o’ch rhieni. Os oes gennych ddau enyn diffygiol, yna mae llawer o arwynebau yn eich corff yn methu â symud halen a dŵr yn iawn i mewn/allan o’u celloedd. Gan fod CF yn effeithio ar gymaint o rannau o’ch corff, gall effeithio ar bron unrhyw ran o’ch bywyd, gan gynnwys eich iechyd corfforol a meddyliol, lles, gwaith a chydberthnasau.

Mae Ffeibrosis Systig yn gyflwr sy’n effeithio nid yn unig ar yr unigolion sy’n cael diagnosis ohono, ond hefyd ar eu hanwyliaid. Mae’n gofyn am gefnogaeth a dealltwriaeth ddiwyro, gyda gweithredoedd anhunanol Rob Jones yn enghraifft o hyn.

Diolch o galon a llongyfarchiadau mawr i Rob Jones ar ei gamp yn cwblhau 10k Ellesmere ac yn curo ei nod codi arian.

Gallwch gefnogi Rob o hyd trwy gyfrannu yma: https://www.justgiving.com/page/rob-jones-1687554581677

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.