Rhoi

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Hijinx yn lansio cyfres newydd o fideos hyfforddi ar-lein i helpu i hyfforddi staff iechyd a gofal cymdeithasol i gyfathrebu’n effeithiol â phobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth yn ogystal â gofalu amdanynt yn briodol a’u cefnogi. Bydd y fideos yn cael eu rhannu mewn gweminar a digwyddiad sgrinio ar-lein ar 27 Ionawr 2021 cyn y byddant ar gael ar-lein i bawb.

Diolch i gyllid gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Busnes Cymru, roedd y Bwrdd Iechyd yn gallu comisiynu Hijinx i ddatblygu cyfres o ffilmiau byr wedi’u ffilmio yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Mae Hijinx yn un o gwmnïau theatr cynhwysol amlycaf Ewrop, yn anelu at gydraddoldeb drwy greu celf ragorol gydag actorion ag anabledd dysgu a/neu sy’n awtistig ar y llwyfan, ar y sgrin, yn y gweithle, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i Gymru ac i’r byd.

Mae’r ffilmiau hyfforddi yn trafod nifer o bynciau a oedd wedi’u hamlygu fel meysydd a oedd yn peri cryn bryder yn y Bwrdd Iechyd, fel cyfathrebu, trin rhwymedd a gwneud arsylliadau. Ychydig flynyddoedd yn ôl, canfu astudiaeth a gynhaliwyd gan Arsyllfa Anableddau Dysgu ar gyfer Gwella Iechyd a Bywydau fod tua 1200 o bobl ag anableddau dysgu yn marw yng ngofal y GIG bob blwyddyn, ac y gellid osgoi’r marwolaethau hynny.

Bydd yr hyfforddiant hwn yn helpu i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb mawr hwn o ran y gofal a’r driniaeth y mae pobl ag anableddau dysgu wedi’u derbyn a bydd hefyd yn achub bywyd cleifion o bosibl.

Mae pedwar o actorion Hijinx yn perfformio yn y ffilmiau hyfforddi hyn sy’n llawn gwybodaeth ac yn ddiddorol iawn, gyda hiwmor a brand y cwmni wrth galon y cyfan. Byddant ar gael i staff eu gwylio ledled y GIG, yn ogystal ag unrhyw un sy’n dymuno datblygu eu hyfforddiant anabledd am ddim ar-lein.

Dywedodd Andy Jones, Prif Nyrs ar gyfer Llawfeddygaeth, Wroleg, Offthalmoleg, Adran y Glust, y Trwyn a’r Gwddf, Gwasanaeth Deintyddol a Gwella Clwyfau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, “Rwy’n teimlo’n gyffrous iawn y bydd y ffilmiau hyfforddi hyn yn cael eu rhyddhau a’u defnyddio i hybu gwella arferion yn y maes gofal ar gyfer cleifion ag anableddau dysgu.

“Mae’r anghydraddoldebau yn y ddarpariaeth gofal iechyd ar gyfer y grŵp agored i niwed hwn yn cael ei gydnabod yn eang.

“Mae’r ffilmiau hyn yn seiliedig ar ganfyddiadau adroddiad LeDer y GIG yn Lloegr ac yn dod yn fyw diolch i actorion Cwmni Theatr Hijinx. Mae gan yr actorion anableddau dysgu ac maent wedi gorfod wynebu anawsterau o ran cael y gofal a’r gefnogaeth y mae ganddynt yr hawl i’w cael hefyd.

“Nod y prosiect oedd cael ffilmiau a oedd yn herio ac yn pryfocio cynulleidfaoedd ac yn gwneud iddynt drafod y problemau, y rhwystrau a’r heriau cyffredin y mae pobl ag anableddau dysgu yn eu hwynebu. Gobeithio y bydd y ffilmiau hyn yn hwyluso trafodaethau er mwyn dysgu ac er mwyn gallu gwneud addasiadau rhesymol er mwyn goresgyn problemau diagnosteg ac er mwyn cadw pobl yn ddiogel.”

Dywedodd Sarah Horner, Prif Weithredwr Theatr Hijinx, “Mae’n wych gweld y ffilmiau hyn yn cael eu rhannu er mwyn cefnogi hyfforddiant mewn maes mor bwysig. Rydym yn falch iawn o fod wedi gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn datblygu’r adnoddau hyn ac yn galluogi profiadau actorion Hijinx i fod yn ganolog i’w creadigaeth. Gobeithio y byddant yn cael effaith go iawn ar ansawdd y gofal y mae cleifion ag anableddau dysgu yn ei dderbyn.”

Ar 27 Ionawr 2021, bydd y fideos yn cael eu lansio mewn digwyddiad sgrinio ar-lein, gyda phobl yn bresennol o’r GIG, y llywodraeth a’r sectorau iechyd a busnes. Bydd gweminar yn dilyn y digwyddiad lle bydd cyfle i gael trafodaeth fer. Dim ond hyn a hyn o docynnau sydd ar gael ar gyfer y digwyddiad sgrinio ar-lein a hynny drwy Eventbrite. Bydd y fideos ar gael gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro o 28 Ionawr 2021 ymlaen.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.