Rhoi

Mae’n bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gyhoeddi bod Katherine Ronchetti, Ffisiotherapydd Pediatrig Tra Arbenigol, wedi’i choroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Mawrth.

Mae gan Kath dros 20 mlynedd o brofiad yn y GIG a dywedwyd ei bod yn eithriadol yn ei rôl yn gweithio gyda phlant sydd â chyflyrau cyhyrol a niwroanabledd cymhleth. Mae Kath yn aml yn hyfforddi rhieni, gofalwyr, staff cymunedol a staff ysgolion arbennig mewn technegau fel sugno a chlirio llwybr anadlu sy’n hanfodol i gadw plant ag anghenion cymhleth yn iach.

Dywedir bod Katherine yn barod i deithio i bellteroedd Gorllewin Cymru heb feddwl ddwywaith amdano, er mwyn cefnogi teuluoedd a thimau gofal iechyd lleol i asesu a thrin plant sâl. Ar sawl achlysur, arbenigedd Kath a’i gweithredu cyflym sydd wedi galluogi plant sy’n ddifrifol wael i gael mynediad at ofal meddygol priodol. Fel y dywedodd un o’i chydweithiwr, “Nid yw pob arwr yn gwisgo clogyn, mae rhai yn gwisgo crysau polo gwyn a throwsus glas tywyll!”

Dywedodd Heather Gater, Arweinydd Clinigol, Gwasanaeth Ffisiotherapi Pediatrig Acíwt, “Mae Kath yn Ffisiotherapydd Pediatrig Tra Arbenigol sy’n gweithio i gefnogi cleifion â chyflyrau niwrogyhyrol ac anadlol cymhleth fel rhan o dîm amlddisgyblaethol arbenigol yn yr Uned Anadlol Pediatrig. Mae hi wedi bod yn ei rôl bresennol ers dros 10 mlynedd ac mae’n chwarae rhan allweddol wrth gefnogi plant a phobl ifanc ochr yn ochr â’u teuluoedd a’u gofalwyr i reoli eu cyflyrau anadlol.

“Mae Kath yn eiriolwr gwych dros ei chleifion a’u teuluoedd ac yn rhoi’r hyder iddynt reoli eu cyflwr gartref ac atal yr angen i ddod i’r ysbyty lle bo modd. Mae hi’n grymuso teuluoedd, gofalwyr, staff cymunedol ac ysgol trwy hyfforddiant a chymorth pwrpasol i alluogi’r plant hyn i aros yn iach a chael ansawdd bywyd da, gan gymryd rhan yn eu plentyndod a’i fwynhau. Os byddant yn mynd yn sâl bydd ymateb cyflym Kath yn eu cefnogi i wneud y gorau o’u triniaeth gan atal yr angen i ddod i’r ysbyty yn aml. Os byddant yn dod i’r ysbyty, bydd Kath bob amser wrth law i roi cymorth i’w galluogi i gael eu rhyddhau’n ddiogel adref trwy hyfforddiant ac ymweliadau dilynol.

“Mae Kath wir yn gwneud gwaith gwych i’w chleifion ac mae’n rôl mor bwysig. Mae’n wych ei bod wedi cael ei henwebu ar gyfer Arwr Iechyd. Da iawn Kath!”

Bydd Kath yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Mawrth ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae hi wrth ei bodd gyda’r enwebiad am y wobr.

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk

Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.

Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.

Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.