Rhoi

Mae’r Rhydlafar Warriors yn dîm o Nyrsys a Therapyddion yn Uned Rhydlafar, Ysbyty Dewi Sant. Maent wedi ymrwymo i wneud 20 sgwat fesul aelod o staff ar ddechrau pob sifft trwy gydol mis Tachwedd.

Mae Uned Rhydlafar yn uned adsefydlu gyda chleifion sydd fel arfer dros 65 oed ac yn cael eu derbyn o ysbytai mwy ar gyfer adsefydlu pellach. Mae’r staff gofal iechyd yn eu helpu i gymryd rhan yn eu galwedigaethau beunyddiol ac yn cyfeirio unigolion at wasanaethau cymunedol i hybu eu hannibyniaeth a’u diogelwch gartref.

Bydd yr arian a godir drwy’r her sgwatiau yn mynd tuag at brynu cadair gogwyddo hydrotilt newydd i gleifion yn Uned Rhydlafar, a fydd yn eu helpu i fod yn gyfforddus ac yn cefnogi eu lles a’u hadferiad.

Dywedodd Lea England, Prif Nyrs Ward yn Uned Rhydlafar ac arweinydd yr her hon, “Daeth y syniad o’r her sgwatiau oherwydd bod angen i ni gael cadair gogwyddo hydrotilt newydd i gymryd lle un oedd yn anniogel. Mae’r cadeiriau hyn yn bwysig i daith adsefydlu claf. Mae’n golygu bod cleifion yn gallu codi o’u gwely ac eistedd yn gyfforddus ar gadair gan helpu i atal datgyflyru. Mae’n ategu nod y BIP i sicrhau bod pawb yn codi, gwisgo a symud.

“Pan feddylion ni am y syniad hwn i godi arian yn gyntaf, nid oedd pawb yn y tîm yn awyddus i gymryd rhan. Ond yn y pen draw, pan ddechreuon ni wneud y sgwatiau, roedd pawb yn cael eu calonogi oherwydd ein bod yn ei wneud at achos da ac mae’n weithgaredd lle gallwn ni i gyd gael hwyl a chwerthin wrth ddod yn fwy ffit.”

Mae’r tîm yn awyddus i godi cymaint o arian â phosibl, ac maent bellach yn anelu at gyflawni rhwng 260-300 o sgwatiau bob dydd, yn dibynnu ar faint o staff fydd ar ddyletswydd. Bydd hynny’n gyfystyr â 9,000+ o sgwatiau am y mis cyfan!

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn dymuno pob lwc i’r Rhydlafar Warriors wrth iddynt gychwyn ar yr her epig hon! I gefnogi eu cenhadaeth, ewch i’w tudalen JustGiving.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.