Rhoi

Ym mis Ebrill eleni, gwnaethom ddweud wrthych am yr anhygoel Annie a oedd yn ysbrydoli ei ffrindiau a’i theulu i ymgymryd â Llwybr Arfordir Cymru i godi arian ar gyfer Apêl Canolfan y Fron a City Hospice, Caerdydd.

Cafodd Annie ddiagnosis canser y fron ym mis Hydref 2019, ac yn dilyn mastectomi llwyddiannus, cafodd wybod ei bod yn glir ohono ym mis Tachwedd 2019. Dywedodd y cafodd ofal a chymorth rhagorol gan y bobl wych yng Nghanolfan y Fron yn Ysbyty Llandochau, felly penderfynodd ei bod am roi rhywbeth yn ôl iddyn nhw. Ei syniad oedd cerdded Llwybr Arfordir Cymru a cheisio codi rhywfaint o arian. Mae pawb yn gwybod beth ddigwyddodd wedyn ym mis Mawrth 2020!!

Nid oedd COVID yn mynd i atal Annie rhag cyflawni ei nod, felly defnyddiodd yr amser yn ystod y cyfyngiadau symud i wella ei ffitrwydd, a dechreuodd gynyddu’r pellter yn raddol hyd nes ei bod yn cerdded hyd at 12 milltir y dydd.

Yn drist iawn, yn ddiweddarach y flwyddyn honno, cafodd Annie ddiagnosis Canser y Fron Negyddol Driphlyg, ac ni allai barhau â’i chynllun.

Dan arweiniad ei gŵr, Ray, sy’n cyfaddef ei fod wedi bod yn ‘wrthwynebydd cydwybodol i wneud ymarfer corff drwy gydol ei fywyd’, gwnaeth teulu a ffrindiau Annie ymgymryd â’r her a dangos harddwch a rhyfeddodau Llwybr yr Arfordir i Annie.  Gwnaeth Maxine, merch Annie, greu tudalen codi arian a chyfrif Facebook/Instagram i helpu i gyflawni dyhead Annie i gwblhau Llwybr Arfordir Cymru, gyda chyfranogiad rhithwir Annie. 

Cyn i Annie fynd yn rhy sâl, roedd am godi arian ar gyfer y sefydliadau a oedd wedi ei helpu cymaint i ymdopi â chanser, am ei bod o’r farn bod y gofal a gafodd wedi bod yn gwbl anhygoel. Y ddau achos gwnaeth Annie ddewis eu cefnogi oedd Apêl Canolfan y Fron a City Hospice, Caerdydd.

Gwnaeth cefnogwyr Annie ymgymryd â’r her yn wych, gan godi miloedd yn ystod y mis cyntaf a thynnu lluniau bendigedig ar gyfer Annie ar yr un pryd.  Yn drist iawn, tua mis ar ôl cychwyn yr her, bu farw Annie yn dawel gartref, gyda’i merch Maxine, a’i gŵr Ray wrth ei hymyl.

Dywedodd Maxine “Rydym wedi derbyn cymaint o eiriau caredig a theyrngedau i mam ar y cyfryngau cymdeithasol a’r dudalen codi arian. Roeddwn i’n gwybod ei bod yn fenyw anhygoel – ac mae’n debyg bod llawer o bobl eraill yn gwybod hynny hefyd!”

Mae Her Llwybr yr Arfordir Cymru Annie wedi parhau, ac mae Maxine a Ray wedi bod yn benderfynol i ddal ati i hyrwyddo eu her a chefnogi Apêl Canolfan y Fron Caerdydd a’r Fro a City Hospice ar ran Annie.

Rydym wedi bod wrth ein bodd yn dilyn eu cynnydd ac edrych ar rai o’r golygfeydd prydferth maent wedi’u gweld.  Mae eu cefnogwyr hefyd wedi bod yn hynod hael, ac mae eu hymdrechion codi arian wedi cyrraedd bron £9,750 erbyn hyn (gyda Rhodd Cymorth).  Mae gan Her a Thaith Rithwir Llwybr Arfordir Cymru Annie dudalen codi arian ar Virgin Money Giving, ac mae ganddynt hyd at ddiwedd Tachwedd 2021 i gyrraedd eu targed o £10,000.

Mae Tîm Canolfan y Fron yn parhau i ddilyn eu taith anhygoel bob cam o’r ffordd, felly cadwch lygad ar gyfrifon Facebook, Twitter ac Instagram yr Elusen Iechyd ac Apêl Canolfan y Fron. 

Gallwch hefyd gefnogi Taith Llwybr Arfordir Cymru Annie yma:-

 https://uk.virginmoneygiving.com/AnniesWalesCoastalPathChallenge  a chael y wybodaeth ddiweddaraf am eu cynnydd drwy ddilyn tudalennau Her Llwybr Arfordir Cymru Annie.

Rydym yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth teulu a ffrindiau Annie, ac os hoffech wybod mwy am sut y gallwch gefnogi Apêl Canolfan y Fron neu unrhyw un o gronfeydd neu apeliadau Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, anfonwch e-bost at fundraising.cav@wales.nhs.uk Diolch yn fawr.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.