Rhoi

Mae dau Geriatregydd sy’n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Dr Biju Mohamed a Dr Govind Menon, yn bwriadu beicio o Lundain i Baris dros 3 diwrnod i godi arian ar gyfer Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro i gefnogi Gwasanaethau Cof a Parkinson’s Caerdydd a’r Fro. 

Mae’r ddau gydweithiwr hyn wedi bod yn hyfforddi’n anhygoel o galed, a’u gobaith yw codi arian i fynd tuag at ymchwil a chefnogi gofal cleifion uniongyrchol, fel gwella cwnsela, addysg a chefnogaeth pan fydd pobl yn cael diagnosis anodd sy’n newid eu bywydau. 

Mae plant Dr Mohamed hefyd yn ymuno yn y daith feicio 242 milltir, y maent yn bwriadu ei chwblhau dros 3 diwrnod rhwng 10 a 12 Awst 2022.  Mae Raihaan yn 21 oed ac yn feddyg 4edd flwyddyn yn y Coleg Imperial yn Llundain ac mae Raima yn 11 oed ac yn fyfyriwr yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd sydd hefyd yn beicio gyda chlwb beicio Maindy Flyers. Mae Raima hefyd wedi dewis cefnogi Llamau a phobl ifanc ddigartref am ei rhan hi yn yr her. 

I ychwanegu at y tîm gwych hwn, ac i gynyddu’r ymdrechion codi arian, mae gwraig Biju, Niba, a gwraig Govind, Leena, sydd ill dau yn feddygon teulu, yn gwirfoddoli fel eu criw cymorth ac yn dilyn y tu ôl i’r tîm beicio mewn ceir. 

Dymunwn bob lwc a theithiau diogel iddynt, ac os hoffech eu cefnogi, dilynwch y ddolen hon: https://www.justgiving.com/fundraising/biju-govind 

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.