Rhoi

Yn ddiweddar, rhoddwyd cyllid gan Loteri’r Staff i’r Adran Iechyd Galwedigaethol i wella a diweddaru ymddangosiad yr ardal aros i staff.

Mae’r Tîm Iechyd Galwedigaethol yn darparu gwybodaeth ac adnoddau i staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, i’w cynorthwyo i gynnal a gwella eu lles yn y gwaith ac yn eu bywydau personol.

Er mwyn gwella profiad defnyddiwr y gwasanaeth, mae’r Tîm Iechyd Galwedigaethol wedi penderfynu troi ystafell fawr yn ardal aros i staff sy’n dod i’r adran, gan fod yr ystafell aros bresennol yn fach iawn.

Rhoddwyd arian Loteri’r Staff i’r adran i wneud y gwelliannau angenrheidiol i’r amgylchedd. Roedd hyn yn cynnwys prynu lloriau newydd, seddi ychwanegol, yn ogystal ag addurniadau llachar a llawen ar gyfer y waliau.

Dywedodd Mark Dunford, Ymarferydd Arweiniol Arbenigol yn yr Adran Iechyd Galwedigaethol: “Byddai’r prosiect hwn yn sicrhau bod defnyddwyr y gwasanaeth yn cael profiad cadarnhaol wrth fynychu’r adran. Mae hyn yn rhywbeth rydym yn angerddol yn ei gylch er mwyn sicrhau bod defnyddwyr y gwasanaeth wrth wraidd ein model gofal.”

Roedd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o gefnogi’r prosiect gan y bydd yn cael effaith gadarnhaol barhaol ar les staff BIPCAF sy’n gweithio yn yr adran, yn ogystal â’u cydweithwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.