Rhoi

Trwy gais Loteri Staff a gymeradwywyd yn ddiweddar, cafodd yr Adran Gofal Iechyd yng Ngharchar EM Caerdydd ei thrawsnewid a gosodwyd feinylau wal croesawgar yn ardaloedd y staff a chleifion.

Yn flaenorol, roedd yr ystafelloedd aros cleifion yn yr Uned Gofal Iechyd yng Ngharchar Caerdydd yn ddi-liw heb unrhyw fath o ddiddordeb gweledol. Roedd yr angen am fariau ffenestri yn golygu mai prin oedd y golau naturiol, gan greu awyrgylch digroeso i gleifion a allai dreulio hyd at ddwy awr yn yr ystafelloedd hyn. Ychwanegodd y waliau magnolia plaen ymhellach at yr amgylchedd diflas.

Yn yr un modd, gwelwyd gwelliannau yr oedd mawr eu hangen yn Ystafell Orffwys y Staff Gofal Iechyd yng Ngharchar Caerdydd. O ystyried natur yr amgylchedd gwaith a phrotocolau diogelwch, roedd staff yn ei chael hi’n heriol cymryd egwyl cinio oddi ar y safle o fewn eu hamserlenni penodedig. Roedd yr ystafell staff, fel ystafelloedd aros y cleifion, yn dywyll ac yn ddiflas yn flaenorol, gan arwain cydweithwyr i gael egwyl cinio yn eu gweithfannau. Gan gydnabod pwysigrwydd darparu man cadarnhaol a chroesawgar i staff orffwys, gwnaed newidiadau i wella’r man gorffwys.

Dywedodd Julie Turner, Rheolwr Gweithredol yr Adran Gofal Iechyd yng Ngharchar Caerdydd: ‘Roeddem wrth ein bodd pan gafodd ein cais am arian drwy’r panel Cynigion Loteri Staff ei gymeradwyo. Ein cais oedd cefnogi staff a chleifion drwy wella’r amgylchedd.

Mae’r staff sy’n gweithio yn y maes Gofal Iechyd yng Ngharchar EM Caerdydd, fel llawer o staff ar draws BIPCAF, yn cael diwrnodau prysur iawn. Mae eu diwrnodau gwaith yn feichus, yn llawn straen emosiynol a chorfforol ac ar adegau yn drallodus. Mae’r amgylchedd unigryw ar gyfer staff gofal iechyd clinigol a gweinyddol yn golygu nad yw mynd oddi ar y safle am gyfnodau egwyl yn hawdd. Felly, roeddem am roi man gorffwys i’n staff i dreulio eu hegwyliau lle gallent ymlacio. Yn dilyn trafodaeth gyda’r staff dewiswyd thema’r traeth, a chafwyd dodrefn newydd hefyd.

Roedd yr un mor bwysig ein bod yn cefnogi prosiect ar gyfer ein cleifion. Waeth beth yw natur yr amgylchedd neu’r rhesymau y mae’r dynion yn preswylio yma, o ran eu hanghenion gofal iechyd, ‘ein cleifion’ ydynt yn y bôn. Roeddem am wella’r ardal a ddefnyddir tra byddant yn aros i weld aelod o’r tîm gofal iechyd. Gellir cadw cleifion yn yr ardaloedd hyn am gyfnodau estynedig, ac felly roeddem am ddarparu amgylchedd a oedd yn fwy tebyg i’r mannau aros mewn lleoliadau cymunedol. Mae’r delweddau o dirnodau lleol yn rhoi pwyntiau ffocws i gleifion siarad amdanynt a dyheadau ynghylch y byd sy’n eu haros.

Mae staff a chleifion yn falch iawn gyda chanlyniad y ddau brosiect, ac ni allwn ddiolch digon i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a’r Loteri Staff.’

Roedd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o gefnogi’r prosiect hwn, gan ei fod yn anelu at wella lles cleifion a staff yn uniongyrchol o fewn CEM Caerdydd. Gan gydnabod yr amgylchedd llawn straen, roedd yr elusen yn deall yr effaith sylweddol y gall gofodau dan do ac awyrgylch well ei chael ar fywydau beunyddiol staff a chleifion, gan gyfrannu at ymdeimlad mwy hamddenol a hapus.

Gallwch ddarganfod mwy am sut i ymuno â’r Loteri Staff, a sut i wneud cais am arian i wella’ch adran trwy ymweld â’n gwefan.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.