Rhoi

Ar draws Cymru, mae miloedd o bobl yn wynebu llawdriniaeth canser bob blwyddyn.

I lawer o gleifion, mae llawdriniaeth yn golygu arhosiad hir yn yr ysbyty, risg uwch o gymhlethdodau ac adferiad hirach i ffwrdd o’r teulu, gwaith a bywyd bob dydd.

Ond mae cenhedlaeth newydd o dechnoleg yn newid hynny.

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn codi arian i ddod â phlatfform Llawfeddygaeth drwy Gymorth Robot ychwanegol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, gan helpu mwy o gleifion i dderbyn llawdriniaeth fanwl gywir sy’n newid bywyd yn nes at y cartref.

Gall y canlyniadau newid bywydau:

  • Adferiad cyflymach
  • Llai o gymhlethdodau
  • Llai o amser yn yr ysbyty
  • Creithiau llai
  • Dychweliad cynharach i fywyd normal
  • Mynediad gwell at driniaethau ac ymchwil canser arloesol

I rai cleifion, gall leihau arhosiad yn yr ysbyty a fyddai wedi para saith diwrnod o’r blaen i bedwar yn unig, a bydd rhai cleifion yn dychwelyd adref y diwrnod canlynol.

Byddai platfform robotig ychwanegol yn caniatáu i dimau llawfeddygol:

  • Ddyblu nifer y llawdriniaethau bob blwyddyn
  • Trin mwy o gleifion canser
  • Lleihau amseroedd aros
  • Ehangu mynediad ar draws sawl arbenigedd
  • Cefnogi ymchwil arloesol a threialon clinigol
  • Helpu i gadw arbenigedd llawfeddygol o’r radd flaenaf yma yng Nghymru

Heb fuddsoddiad, gallai cleifion golli cyfleoedd i elwa ar y datblygiadau diweddaraf mewn triniaeth canser.
Gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn newid hynny.

Dychmygwch glywed y geiriau, “Mae gennych chi ganser.”
Dychmygwch gael gwybod bod angen llawdriniaeth fawr arnoch chi.
Nawr dychmygwch wella’n gyflymach, treulio llai o amser yn yr ysbyty, osgoi gofal dwys a mynd yn ôl at y bobl sydd bwysicaf yn gynt.

P’un a ydych chi’n rhoi £10, £100, £10,000 neu £100,000, mae pob rhodd yn ein dwyn un cam yn nes at ariannu platfform robotig ychwanegol.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.