Sêl Hanner Pris ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Elusen
Er mwyn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Elusen, rydym yn cynnal sêl hanner pris ar ein nwyddau Elusen Iechyd am un penwythnos yn unig! Caiff yr holl arian a godir o’r gwerthiant ei ddefnyddio i wella pethau ar gyfer ein cleifion a staff y Bwrdd Iechyd.
Cynhelir y sêl rhwng dydd Gwener 3 Medi a dydd Llun 6 Medi.

Mae ffi ychwanegol i bostio neu fel arall, gallwch gasglu’r hyn a brynwyd o’r lleoliadau canlynol:
Tŷ Coetir – Yn ystod oriau’r swyddfa o 07/09/2021
Oriel yr Aelwyd, Ysbyty Athrofaol Llandochau – 07/09/2021 – 11:30 – 14:00
Pod yr Elusen Iechyd, Ysbyty Athrofaol Cymru – 08/09/2021 – 11:30 – 14:00
Dewiswch eich opsiwn casglu wrth dalu.