Yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Strôc, nid yw effaith cefnogaeth gymunedol yn dilyn strôc erioed wedi bod yn fwy amlwg. Diolch i gyllid gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro drwy’r cynllun Loteri i Staff, mae pobl yr effeithiwyd arnynt gan strôc yn dod o hyd i gysylltiad, hyder a llawenydd eto drwy Gôr Stroke of Harmony.
Mae’r côr yn rhan o waith ehangach Clwb Cymdeithasol Strôc Caerdydd, grŵp cymunedol hirhoedlog a sefydlwyd dros 15 mlynedd yn ôl i gefnogi goroeswyr strôc a’u teuluoedd. O dan arweinyddiaeth y Cadeirydd Dionne Wood, mae’r grŵp wedi parhau i esblygu, gan ddod o hyd i ffyrdd newydd a chreadigol o ddod â phobl ynghyd a gwella lles.
Daeth y syniad ar gyfer y côr o gariad Dionne at gerddoriaeth a’i hawydd i gynnig rhywbeth gwahanol.
I wireddu’r syniad, bu’n gweithio gyda Nia Tyler, cantores a goroeswr strôc, sydd bellach yn arwain y sesiynau. Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw greu gofod lle gellid defnyddio cerddoriaeth nid ar gyfer perfformio, ond ar gyfer iachâd, mwynhad a chysylltiad.
Côr Unigryw
Mae Côr Stroke of Harmony yn cyfarfod unwaith y mis yng Nghlwb Rygbi, Chwaraeon a Chymdeithasol yr Eglwys Newydd. Er ei fod yn cael ei alw’n gôr, nid yw’r ffocws ar berffeithrwydd na pherfformiad. Yn hytrach, mae’n darparu lle hamddenol, cynhwysol lle gall pobl ddod at ei gilydd i ganu.
Mae’r sesiynau’n dechrau gyda phaned, sgwrs a chwerthin — cyfle pwysig i bobl gysylltu — cyn symud ymlaen at gynhesu’n ysgafn a chaneuon cyfarwydd. Mae’r sesiynau wedi’u haddasu’n ofalus i sicrhau y gall pawb gymryd rhan, gan gynnwys y rhai sy’n byw ag affasia. Mae caneuon yn cael eu harafu lle bo angen, ac mae symudiadau syml yn helpu i wneud y profiad yn hygyrch o safbwynt corfforol a chyfathrebu.
Mae’r grŵp yn agored i unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio gan strôc — goroeswyr, gofalwyr, aelodau o’r teulu, ffrindiau a staff y GIG sy’n gweithio ar hyd y llwybr strôc.
Yn ei hanfod, mae’n ymwneud ag adeiladu ymdeimlad o gymuned.
Persbectif Personol
I Nia, mae’r côr yn bersonol iawn.
Cafodd strôc yn 2019 pan oedd hi’n 20 oed yn astudio seicoleg yn y brifysgol. Heb unrhyw hanes teuluol a ffactorau risg isel, daeth y diagnosis fel sioc — ac ni ddigwyddodd ar unwaith. Oherwydd natur anarferol ei strôc, cymerodd wythnos a sawl asesiad cyn iddo gael ei chadarnhau.
Newidiodd y profiad gwrs ei bywyd.
Dewisodd ddilyn cerddoriaeth, rhywbeth yr oedd hi wedi’i charu erioed, ac mae hi bellach yn ei defnyddio i gefnogi eraill. Fel llawer o oroeswyr, mae hi’n parhau i fyw gydag effeithiau parhaol, gan gynnwys blinder cronig, meigrynau, sensitifrwydd synhwyraidd ac affasia ysgafn.
“Weithiau, rwy’n cymryd fy mod i’n cael canu yn ganiataol,” meddai. “Nid yw pawb yn cael y cyfle hwnnw — ac ar ôl strôc, gall pobl deimlo’n eithaf ynysig.”
Dangosodd ei phrofiad ei hun o therapi cerdd pa mor bwerus y gall canu fod, yn emosiynol ac yn gorfforol. Mae’r ddealltwriaeth honno bellach yn llunio pob sesiwn y mae hi’n ei harwain.

Eiliadau Bach, Newidiadau Mawr
Gwelir effaith y côr mewn ffyrdd cynnil ond pwerus.
Wrth i’r sesiynau fynd yn eu blaenau, mae pobl yn amlwg yn ymlacio. Mae sgyrsiau’n dod yn haws. Mae chwerthin yn atsain. Mae hyder yn tyfu.
“Rydych chi’n gweld pawb yn ymlacio,” meddai Nia. “Mae pobl yn dechrau tynnu coes, ac rydyn ni i gyd yn chwerthin gyda’n gilydd – hyd yn oed pan fydda i’n cymysgu’r geiriau.”
I rai o’r mynychwyr, mae’r newidiadau’n arbennig o drawiadol. Mae unigolion a oedd unwaith yn dawel neu’n swil — gan gynnwys y rhai yr oedd Dionne wedi’u gweld ar wardiau ysbytai yn flaenorol — bellach yn mynegi eu hunain yn fwy, yn fwy cymdeithasol ac yn fwy hyderus.
Dywedodd Deb, un o’r cyfranogwyr, “Rwy’n teimlo ei fod yn lle diogel lle gallwn fod yn ni ein hunain, ymuno yn yr hwyl a rhoi hwb i’n hyder.”
Mae aelodau newydd yn cael tawelwch meddwl o’r profiad a rennir yn y grŵp. Teimlai un mynychwr diweddar a oedd yn byw gydag affasia dwys yn ddigon cyfforddus i siarad yn agored am ei strôc, gan wybod ei fod wedi’i amgylchynu gan bobl a oedd yn deall ac a fyddai’n amyneddgar.
Dywedodd Enrique, aelod o’r côr, “Rwy’n mwynhau canu’n fawr ac mae Stroke of Harmony yn amgylchedd diogel lle gallaf ganu’n hyderus, gan wybod na fyddaf yn cael fy marnu, a chael fy amgylchynu gan y bobl fwyaf anhygoel rwy’n eu hadnabod.”
Cefnogi Adfer a Lles
Mae manteision y côr yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r sesiynau eu hunain.
Mae’n hysbys bod canu’n rhyddhau endorffinau, gan helpu i wella hwyliau a lleihau straen. I oroeswyr strôc, mae hefyd yn cefnogi adsefydlu, yn enwedig mewn meysydd fel lleferydd a chyfathrebu. Gan fod cerddoriaeth yn cael ei phrosesu mewn rhan wahanol o’r ymennydd i leferydd, gall ddarparu llwybr amgen, sy’n aml yn fwy hygyrch, at fynegiant.
Dywedodd un aelod diolchgar, “Mae Barri wrth ei fodd yn canu ac yn teimlo ei fod yn cael ei lais yn ôl wrth wneud hynny. Rydyn ni wrth ein bodd â’r awyrgylch cyfeillgar a hapus sydd i’w deimlo gan bawb. Dyna’r ddwy awr orau!”
Mae’r effaith emosiynol yr un mor bwysig.
Gall strôc arwain at newidiadau dwys — nid yn unig i’r unigolyn, ond hefyd i’r rhai sy’n gofalu amdanynt. I ofalwyr, mae’r côr yn cynnig moment o ryddhad a chyfle i ailgysylltu â’r person maen nhw’n ei adnabod ac yn ei garu.
“Dyma’r tro cyntaf i mi weld Mike yn dod yn fyw go iawn,” meddai un o’r aelodau, Rachel. “Mwynhaodd y sesiwn gyfan yn fawr iawn, hyd yn oed yr ymarferion cynhesu. Wrth ganu gyda phawb a thapio’i draed, roedd yn cofio geiriau’r caneuon – rhywbeth sy’n gallu bod yn anodd yn ystod bywyd bob dydd. Roedd gweld Mike mor fywiog yn gwneud i mi deimlo mor hapus. Fe ddaeth â dagrau llawenydd i’m llygaid. Nid effaith y sesiwn yn unig oedd hynny, fe wnaethon ni ganu’r gân am ychydig ddyddiau wedyn hefyd.”
Y Gwahaniaeth y Mae Cyllid yn ei Wneud
Mae cyllid elusennol wedi bod yn hanfodol i wneud Côr Stroke of Harmony yn bosibl.
Drwy gefnogaeth Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, mae’r grŵp wedi gallu:
· Darparu sesiynau strwythuredig rheolaidd
· Cynnig arweinyddiaeth gerddorol broffesiynol
· Sicrhau hygyrchedd gyda mewnbwn arbenigol
· Creu gofod cymunedol diogel a chroesawgar
Ar adeg pan fo gwasanaethau cymorth strôc yn y gymuned yn gyfyngedig, nid yn unig y mae mentrau fel hyn yn werthfawr, maent yn hanfodol.
Edrych tua’r Dyfodol
Er ei fod yn ei gamau cynnar o hyd, mae Côr Stroke of Harmony eisoes yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon. Mae’r hyn a ddechreuodd fel syniad wedi tyfu i fod yn gymuned gefnogol a chroesawgar lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu deall, eu cynnwys a’u hysbrydoli.
Y gobaith yw parhau i adeiladu’r gymuned hon, gan ddod â mwy o bobl ynghyd trwy gariad a rennir at gerddoriaeth a dealltwriaeth a rennir o fywyd ar ôl strôc.
“Yr hyn sy’n anhygoel i fi yn Stroke of Harmony yw clywed lleisiau’n canu geiriau na allant eu cofio fel arfer. Mae’n sŵn hyfryd i’w glywed.”
Diolch i gyllid elusennol, nid yn unig y mae pobl sydd wedi’u heffeithio gan strôc yn dod o hyd i’w lleisiau eto, maent yn ailddarganfod hyder, cysylltiad a llawenydd.
