Rhoi

Mae 20th Tachwedd yn nodi Diwrnod Cofio Trawsryweddol, diwrnod cofio blynyddol wedi’i neilltuo ar gyfer unigolion sydd wedi colli eu bywydau yn sgil trawsffobia. Nod y diwrnod cofio hefyd yw tynnu sylw at y cam-drin a’r trais sydd yn dal yn digwydd i lawer o bobl trawsryweddol heddiw.

Roedd Elusen Iechyd a Chelfyddydau Caerdydd a’r Fro eisiau helpu i wneud Gwasanaeth Rywedd Cymru yn Ysbyty Dewi Sant, sydd newydd gael ei sefydlu, yn lle diogel a chroesawgar i’w defnyddwyr, a hefyd mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â stigma a gwahaniaethu. Cafodd llawer o artistiaid eu comisiynu i greu amrywiaeth o waith celf, gan weithio gyda’r tîm clinigol ac aelodau’r gymuned drawsryweddol. Roedd y gwaith celf yn cynnwys peintiadau gan yr arlunydd Clare Williams, cerflun ar gyfer gardd yr uned gan Gideon Petersen a murlun gan Miles Brayford.

Mae’r Elusen Iechyd yn falch o gyfrannu tuag at iechyd a lles cadarnhaol y cleifion a’r staff yng Ngwasanaeth Rywedd Cymru a chefnogi Diwrnod Cofio Trawsryweddol.

Os hoffech chi wneud cyfraniad i gefnogi rhaglen y Celfyddydau yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ewch i: https://www.justgiving.com/campaign/artsforhealthandwellbeing

Cerflun dur gwrthstaen o ddwy ddeilen mewn bwa
Cerflun gan Gideon Petersen

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.