Rhoi

Hoffem ddymuno pob lwc i’r holl redwyr sy’n cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd eleni wrth i chi gyd gychwyn ar eich taith ddydd Sul 1af o Hydref! Diolch am gefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro eleni.

Gallwch gefnogi ein rhedwyr drwy ymweld â’u tudalen JustGiving:

Hanner Marathon Caerdydd er cof am Greg Lloyd

Bydd tîm ymroddedig o tua 120 o gefnogwyr rhyfeddol yn cwblhau Hanner Marathon Caerdydd ar 1af o Hydref 2023 er cof am Greg Lloyd, a fu farw’n sydyn ym mis Awst 2022 ar ôl dioddef ataliad y galon sydyn.

Jayne Catherall

Mae Jayne Catherall, cefnogwr hir-amser a chyn-gydweithiwr yr Elusen Iechyd, yn ymgymryd â Hanner Marathon Caerdydd unwaith eto eleni; y tro hwn i godi ymwybyddiaeth o ganser y prostad.

Hazel Dawson

Yn dilyn diagnosis canser, mae Hazel wedi penderfynu rhedeg Hanner Marathon Caerdydd i gefnogi Apêl Canolfan y Fron yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Sana Fiaz & Aqsa Fiaz

Mae Sana yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd er cof am ei diweddar ferch, Jannat Khan. Bydd Aqsa hefyd yn ymuno â Sana yn Hanner Marathon Caerdydd gan fod Jannat yn nith iddi. Bydd Aqsa yn ymuno â Sana ac yn dyblu eu hymdrechion codi arian ar gyfer yr NICU.

Owain Williams & Hannah Gardener

Fis Hydref eleni, mae Owain a Hannah yn gwneud Hanner Marathon Caerdydd. Gan weithio ym maes iechyd meddwl oedolion yn Hafan y Coed, Ysbyty Athrofaol Llandochau, mae Owain yn rhedeg i helpu i godi rhoddion ar gyfer Ein Dôl Iechyd.

Michelle Graham

Mae’r cefnogwr hirsefydlog Michelle Graham yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd eleni gan ei bod wedi ymrwymo i godi £1 miliwn i ddweud diolch i’r timau yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Plant Bryste a achubodd fywyd ei merch.

Agatha Hills

Mae Agatha wedi treulio pedair blynedd yn astudio niwroddelweddu a niwrowyddoniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Ym mis Hydref eleni, mae Agatha yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd i helpu i godi arian ar gyfer offer o’r radd flaenaf yn adran Niwroleg Ysbyty Athrofaol Cymru.

Peter Jones

Mae Peter yn codi arian ar gyfer Ein Dôl Iechyd i helpu i greu lle gwych i gynyddu iechyd a lles i bawb.

Neuronners

Bydd aelodau ymroddedig o’r Tîm Cymunedol Anafiadau i’r Ymennydd yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ar 1af o Hydref 2023 i godi arian ar gyfer Apêl Prop, sy’n cefnogi cleifion sy’n Adsefydlu wedi Anaf i’r Ymennydd.

Dr Samya Obaji

Mae Samya yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd yn y gobaith o godi arian ar gyfer Rhwydwaith Anhwylderau Gwaedu, Cronfa Waddol Cymru.

Ben Williams

Mae Ben yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ar gyfer Headroom, sef gwasanaeth ymyrraeth gynnar mewn seicosis (EIP) o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae Headroom yn cefnogi unigolion rhwng 14 a 25 oed sy’n profi pwl cyntaf o seicosis.

Rydych chi i gyd yn anhygoel, a byddwn ni’n eich cefnogi yr holl ffordd at y llinell derfyn!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.