Rhoi

Yn ddiweddar, cafodd rhodd garedig o £200 (+GiftAid) ei ddefnyddio i gefnogi’r Tîm Nyrsio Plant Cymunedol Integredig (ICCNS) drwy ddarparu lluniaeth yn ystod eu Digwyddiad Dathlu Staff.

Nod y digwyddiad oedd dathlu Nyrsys Ysgol, Ymwelwyr Iechyd a Nyrsys o dîm ICCNS. Mae’r staff yn gweithio’n galed i gefnogi plant yn y gymuned, gan ddarparu gofal i blant ag anghenion iechyd cymhleth a chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd, mewn lleoliadau addysg, ac yn agosach at gartref.

I gydnabod ymroddiad a gwaith caled y tîm, gofynnwyd i’r holl staff enwebu eu cydweithwyr ar gyfer 7 categori gwahanol cyn y digwyddiad. Yna dewiswyd enillydd ar gyfer pob un o’r canlynol:

  1. Mwyaf Gweithgar ac Ymroddedig
  2. Chwaraewr Tîm Gorau
  3. Mynd yr Ail Filltir / Mynd Gam Ymhellach
  4. Ysbrydoledig / Model Rôl
  5. Dewis y Bobl
  6. Perfformiwr sydd wedi Gwella Fwyaf
  7. Arloesedd / Ysgogi Llwyddiant

Derbyniodd enillydd pob categori dystysgrif, ac anfonwyd llythyr at unrhyw un a dderbyniodd enwebiad yn rhannu geiriau hyfryd eu cydweithwyr. Gofynnwyd i staff hefyd ddarparu 3 gair cadarnhaol am eu tîm, a oedd yna’n cael eu cynnwys mewn darn o waith celf.

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Michael Mogan, a gefnogodd y digwyddiad gyda chyfraniad hael o £200 (+GiftAid) a ddefnyddiwyd i brynu’r lluniaeth. Roedd y tîm yn hynod ddiolchgar am garedigrwydd Michael a’i arwydd o werthfawrogiad.

Dywedodd Louise Young, Cydlynydd Datblygiad Proffesiynol o’r Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd: “Roedd y lluniaeth hyfryd a oedd ar gael i ni wir yn un o uchafbwyntiau’r digwyddiad. Rydym yn siarad llawer am werthfawrogi ein staff, ond roedd y lluniaeth yn symbol go iawn o ddathliad. Darparodd Aroma ddetholiad hyfryd o de, coffi, dŵr rhew, rhywfaint o gacen, bisgedi a phlatiau ffrwythau mawr. Roedd y staff yn werthfawrogol iawn a doedd gennym ni ddim byd ar ôl!”

“Hoffai Claire, Kate a minnau ddiolch yn bersonol i Michael Mogan a fu mor garedig â’n galluogi i gael y lluniaeth, gan olygu bod ein sesiwn yn Ddigwyddiad Dathlu Staff go iawn.”

Roedd y Nyrsys Ysgol, Ymwelwyr Iechyd a Nyrsys o dîm ICCNS wir wedi mwynhau dathlu’r timau a’u holl waith caled. Rydym yn gobeithio bod yr enwebiadau a’r gwobrau wedi rhoi hwb i forâl ac wedi gwneud i’r holl gydweithwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi bod yn falch iawn o gefnogi Digwyddiadau Cydnabod Staff. Os hoffech chi wybod mwy am sut y gallwn ni gefnogi eich tîm, cysylltwch â fundraising.cav@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.