Rhoi

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o gyhoeddi bod David Evans, Arweinydd Tîm Amlddisgyblaethol Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, wedi’i goroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Mehefin.

Mae David wedi’i enwebu gyda balchder gan Dîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles am ei anhunanoldeb, ei gefnogaeth a’i waith parhaus gyda’r prosiectau celf y maent yn eu derbyn yn gyson.

Caiff gwaith caled Dave ei gydnabod, ac fe’i disgrifir fel dyn cwrtais, caredig, cadarnhaol a chymwynasgar, sydd hefyd yn canolbwyntio ar ddatrysiadau ac yn ymarferol bob amser. Mae Dave yn arddangos gwerthoedd y Bwrdd Iechyd Prifysgol ac yn gwneud ei rôl gyda synnwyr digrifwch ac agwedd gadarnhaol.

Mae Dave yn sicrhau ei fod yn cefnogi profiadau pawb sy’n defnyddio ystâd y Bwrdd Iechyd ac mae wedi bod mor gymwynasgar wrth ymwneud â nifer o brosiectau celfyddydol.

Dywedodd Alex Staples, Rheolwr Rhaglen y Celfyddydau mewn Iechyd, “Mae Dave a’i dîm yn gweithio’n ddiflino i gefnogi gwelliannau i amgylcheddau ar gyfer cleifion, staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr. Diolchwn iddo am ei gymorth a’i gefnogaeth.”

Bydd David yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Mehefin ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae wrth ei fodd gyda’r enwebiad am y wobr.

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk

Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.

Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.

Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.