Rhoi

Ym mis Rhagfyr 2020, roedd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn dathlu deng mlynedd o wneud pethau’n well i gleifion, ymwelwyr, staff a’r gymuned ehangach.

Roedd yr Elusen Iechyd wedi bwriadu cynnal digwyddiad i ddathlu 10 mlynedd, gan edrych yn ôl ar y prif brosiectau y mae wedi’u hariannu a dathlu cyfraniadau pobl sydd wedi rhoi, sydd wedi codi arian, sydd wedi gwirfoddoli yn ogystal â’r partneriaid cymunedol dros y degawd diwethaf. Yn anffodus, bu’n rhaid canslo’r cynlluniau oherwydd Coronafeirws. Felly bydd yr Elusen Iechyd yn edrych yn ôl ar sut mae’r bobl sydd wedi codi arian, sydd wedi rhoi, sydd wedi gwirfoddoli yn ogystal â’r partneriaid cymunedol wedi helpu i newid pethau er gwell dros y degawd diwethaf.

Yn 2010, roedd yr Elusen Iechyd wedi rhoi cymorth ariannol i adeiladu Canolfan y Fron yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ac i dalu am offer arbenigol ar gyfer y ganolfan, a gafodd ei hagor yn swyddogol gan y Dylunydd Ffasiwn o Gymru a Noddwr Canolfan y Fron, Julian Macdonald OBE.

Lansiodd yr Elusen Iechyd Apêl Canolfan y Fron i godi arian i gefnogi’r gwasanaeth gyda thechnoleg o’r radd flaenaf a mannau pwrpasol i gleifion gael triniaeth.

Mae’r uned yn trin pob claf sydd â phroblemau’r fron i gyd o dan un to. Agorodd y ganolfan ragoriaeth ym mis Hydref 2010, i ddarparu gwasanaethau diagnostig hanfodol ac apwyntiadau i gleifion allanol ar gyfer bron iawn 4,000 o bobl y flwyddyn.

Dywedodd Sumit Goyal, Llawfeddyg Ymgynghorol y Fron, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Ers i Ganolfan y Fron agor yn 2010, rydym wedi gwneud byd o wahaniaeth i’r driniaeth a’r gofal y mae cleifion canser y fron yn eu derbyn.

“Yn flaenorol, roedd yn rhaid i gleifion deithio i nifer o wahanol safleoedd a chael nifer o wahanol apwyntiadau er mwyn cael diagnosis a thriniaeth. Ers i Ganolfan y Fron agor, mae cleifion yn cael mamogram, archwiliad uwchsain a’u canlyniadau i gyd ar yr un diwrnod.

“Mae’r uned yn symleiddio popeth i’r cleifion ac mae’n gwneud pethau’n haws iddynt ar adeg pan fyddant yn teimlo’n bryderus iawn.

“Cafodd yr uned ei chynllunio o amgylch y cleifion, ac mae’r gwasanaethau’n cael eu darparu mewn amgylchedd sy’n fwy personol.”

Mae Canolfan y Fron yn derbyn cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio gan eu Meddyg Teulu – nid yw 90% o gleifion yn cael diagnosis o ganser y fron. Mae’r gwasanaeth yn gweld rhwng 770 ac 80 o bobl, rhwng 14 a 100 oed bob wythnos, a dynion yw 5% o’r cleifion.

Mae nifer o ddatblygiadau allweddol wedi digwydd yn ystod y deng mlynedd diwethaf yng Nghanolfan y Fron:

  • Mae Campfa – o’r enw Ystafell Mccarthy, wedi cael ei sefydlu, er mwyn i gleifion gael budd o wasanaeth presgripsiwn ymarfer corff i’w helpu i wella.
  • Mae ffisiotherapydd a ffisiotherapydd cynorthwyol wedi cael eu hariannu i helpu cleifion canser y fron i wella drwy wneud ymarfer corff, gan ddefnyddio’r gampfa hon, yn ychwanegol at y sesiynau nofio preifat sydd ar gael i unrhyw un sydd wedi cael llawdriniaeth ar gyfer canser y fron, ac yn ystod y pandemig, mae dosbarthiadau zoom a fideos ymarfer corff ar-lein wedi bod ar gael.
  • Datblygu’r Ap BAPS
  • Prynu offer TG a thanysgrifio i apiau er mwyn gallu cysylltu â chleifion ar-lein yn ystod y cyfyngiadau symud.
  • Mae offer o’r radd flaenaf, fel peiriannau uwchsain a mamogram wedi cael eu huwchraddio

Mae Irene Hicks a’i thîm ffyddlon o godwyr arian sydd wedi bod yn codi arian yn rheolaidd i Ganolfan y Fron wedi codi cyfanswm anhygoel o £161,000 hyd yma. Hefyd, maent wedi addo cefnogi’r gampfa, a gafodd ei henwi’n Ystafell McCarthy er cof am ei thri mab.

Rhywun arall sydd wedi helpu i godi arian a gwneud cyfraniad aruthrol i Apêl Canolfan y Fron yw Mandy Weston, cyn glaf ac aelod o Bwyllgor Apêl Canolfan y Fron, sy’n helpu i drefnu’r Cinio Gala Tei Pinc blynyddol, a’r gystadleuaeth hynod boblogaidd i ddarganfod y dawnsiwr gorau, gyda chefnogaeth ei merch a’i phartner busnes Cariann Emanuelli. 

Mae Apêl Canolfan y Fron bob amser yn ffodus iawn, ac mae’r rhai sydd wedi gorfod defnyddio’r gwasanaeth, neu aelodau o deulu’r rhai sydd wedi bod yn wael, bob amser mor ddiolchgar am y gofal a’r cymorth. Yn aml iawn, mae hyn yn arwain at ysgogi’r unigolion hyn i godi arian er budd yr apêl a rhoi rhywbeth yn ôl, ac mae eu hanesion ysbrydoledig yn aml yn ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.

Os hoffech chi gefnogi gwaith parhaus Canolfan y Fron, gallwch roi yma: https://healthcharity.wales/appeal/breast-centre-appeal/ neu i gael rhagor o wybodaeth am sut gallwch gefnogi digwyddiadau a gweithgareddau yn y dyfodol, anfonwch e-bost at fundraising.cav@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.