Rhoi

Ar ddydd Gwener 17 Mehefin, roedd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn bresennol yn noson gyflwyno clwb golff Cwmtawe 7s yng Nghlwb Golff Pontardawe.

Yn ystod y diwrnod crasboeth, roedd nifer o dimau yn cymryd rhan yn y twrnamaint golff blynyddol, a ddaeth i ben gyda noson o gomedi gan y cyflwynydd Lenny Dee, a rhoddwyd gwobrau i’r tîm buddugol gan Ysgrifennydd Cwmtawe 7s, Julian Bracey a’r Cynghorydd Sir dros Bontardawe, Anthony Richards.

Yno, roeddem yn hynod ddiolchgar o dderbyn siec o £1805.00, ac rydym wedi prynu pedair cadair, planhigion a chloc ar gyfer yr Ystafell Enfys yng Nghlinig Cyn Geni Enfys, Ysbyty Athrofaol Llandochau. Yn drist iawn, defnyddir yr Ystafell Enfys fel ardal i alaru yn dilyn y newyddion am gamesgoriad, marw-enedigaeth neu golli babi newydd-anedig.

Bob dydd yn y DU, mae 15 o fabanod yn cael eu colli yn ystod beichiogrwydd neu’n fuan ar ôl genedigaeth. Mae beichiogrwydd ar ôl colled yn frawychus. Nid oes esboniad i tua hanner yr holl farw-enedigaethau a chamesgoriadau, gan adael rhieni’n teimlo’n ddi-rym i’w atal rhag digwydd eto. Mae gofal cynenedigol i’r teuluoedd hyn yn amrywio ledled y wlad, yn aml heb unrhyw ddilyniant gofal. Weithiau mae’n rhaid i fenywod esbonio diwrnod gwaethaf eu bywydau drosodd a throsodd, gan deimlo eu bod ar wahân i ddarpar rieni eraill. Yn 2017, agorwyd y Clinig Enfys yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Mae tîm o fydwragedd, sonograffwyr, gweithwyr cymorth gofal iechyd ac obstetryddion yn darparu gofal a chymorth cynenedigol arbenigol i fenywod yn ystod yr wythnosau tywyllaf ar ôl eu colled, drwy adegau da ac adegau gwael y beichiogrwydd nesaf.

Dywedodd Dr Amy Robb, Obstetregydd Ymgynghorol ac Arweinydd Gofal Cynenedigol, “Ar ran y bydwragedd a’r obstetryddion sy’n gweithio yng Nghlinig Enfys Caerdydd, hoffem ddiolch i aelodau Cwmtawe 7s am eu hymdrechion codi arian a’u cyfraniad hael. Caiff ei ddefnyddio i drawsnewid ein hystafell dawel, lle i deuluoedd mewn profedigaeth yn dilyn camesgoriad, marw-enedigaeth neu golli babi newydd-anedig. Y gobaith yw y bydd y gofod newydd yn gwneud gwahaniaeth i’r teuluoedd yma ar adeg mor anodd.”

Diolch yn fawr i Gwmtawe 7s am rodd mor hael.

Os hoffech gyfrannu at Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, ewch i healthcharity.wales/donate neu e-bostiwch ein Tîm Codi Arian: fundraising.cav@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.