Rhoi

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o gyhoeddi bod Carole Anne Regan, Bydwraig y Clinig Cyn Geni, wedi’i choroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Ebrill.

Mae Carole Anne yn Fydwraig y Clinig Cyn Geni ac ysgrifennwyd ei henwebiad gan gleifion a oedd yn teimlo ei bod wedi bod yno ar eu cyfer yn ystod yr hyn a ddisgrifiwyd fel ‘cyfnod mwyaf trawmatig ein bywyd’.

Tra bod y cleifion yn gorfod aros yn yr adran am y rhan fwyaf o’r dydd, does dim dwywaith ei fod yn gyfnod llawn straen wrth iddynt wynebu nifer o brofion a thriniaethau. Fodd bynnag, gwnaeth Carole Anne sicrhau bod y cleifion yn gwybod beth oedd yn digwydd nesaf a beth i’w ddisgwyl, gan wrando ar eu pryderon a’u hofnau. Trwy roi ei hamser iddynt, er bod yr adran yn amlwg yn brysur, roedd y cleifion yn teimlo bod Carole Anne yn eu trin â thosturi.

Dywedodd y cleifion, sy’n dymuno aros yn ddienw, “Mae’r swydd y mae Carole Anne yn ei wneud yn hynod emosiynol, ac mae hi’n gwneud ei gwaith gyda’r fath garedigrwydd ac empathi. Gwnaeth brofiad ofnadwy yn haws ei oddef i ni a byddem wrth ein bodd ei bod yn cael ei chydnabod am y gwaith anhygoel y mae’n ei wneud.”

Nid yn unig y mae Carole Anne wedi bod yno ar gyfer y cleifion yn bersonol yn y clinig, ond mae hi hefyd wedi neilltuo amser i drefnu galwadau ffôn, gan eu helpu i lywio taith gymhleth sy’n cynnwys llawer o wahanol arbenigeddau a llawer iawn o wybodaeth. Roedd yn amlwg o’r adborth a gawsom fod Carole Anne yn aml yn mynd gam ymhellach a bob amser yn gefnogol.

Dywedodd Elizabeth Cleavely, Rheolwr y Clinig Cyn Geni, “Carole Anne yw’r fydwraig fwyaf cydwybodol a gofalgar. Rwy’n falch iawn ei bod wedi ennill y wobr hon.”

Bydd Carole Anne yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Ebrill ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae hi wrth ei bodd gyda’r enwebiad am y wobr.

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.

Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.

Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.